Gorymdaith wrth-Nato yng Nghasnewydd

Gorymdaith heddwch Nato
Image caption Mae'r protestwyr wedi bod yn llafarganu wrth orymdeithio

Mae tua 500 o ymgyrchwyr, sy'n protestio yn erbyn Nato, yn gorymdeithio drwy Gasnewydd.

Fe dreuliodd tua 100 y noson mewn gwersyll heddwch ym Mharc Tredegar neithiwr.

Bychan yw nifer y protestwyr gan fod disgwyl y byddai miloedd yn cyrraedd.

Mae'n nhw'n gorymdeithio o'r senotaff yng nghanol y ddinas tuag at gylchfan y Coldra ger gwesty'r Celtic Manor, lleoliad yr uwchgynhadledd.

Nos Iau bydd gorymdaith yng Nghaerdydd cyn i'r arweinwyr giniawa yn y castell.

Image caption "Heddwch!" yw cri'r protestwyr yng Nghasnewydd
Image caption Yr heddlu'n ymbaratoi ar gyfer y brotest
Image copyright AFP/Getty
Image caption Yr orymdaith drwy Gasnewydd
Image copyright Getty Images
Image caption Y protestwyr ar strydoedd Casnewydd

Straeon perthnasol