Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Mae refferendwm yr Alban yn nesáu
Image caption Mae refferendwm yr Alban yn nesáu

Mae'r colofnydd Lefi Gruffudd wedi dod i'r casgliad ei bod yn gamgymeriad cymryd gwyliau adre.

Dyna wnaeth eleni ac yn y Western Mail mae'n dweud i'r profiad fod yn un anodd.

Un o'r pethau anffodus yw S4C ym mis Awst, meddai, fel gwylio isafbwyntiau teledu'r degawdau diwethaf ar lŵp. Fe ddangoson nhw Mastermind 2006 a doedd dim ishe mastermind i weld nad oedd hynna'n syniad da.

Ond erbyn wythnos gyntaf mis Medi, fel y disgrifia erthygl olygyddol Golwg, mae'r ffyrdd yn fwy prysur ar ôl gwyliau'r haf wrth i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol ac, yn achos cannoedd o blant bach pedair a phump oed, mynd am y tro cyntaf gan ddechrau ar batrwm newydd i'w bywydau a allai barhau drwy eu haddysg am bron i 20 mlynedd.

Canmol yr haf

Yn ôl Bethan Wyn Jones yn yr Herald, mi fu'n haf ardderchog - haul ac awel, diwrnodau hirfelyn tesog ddechrau a chanol haf ac yna glaw i aeddfedu'r ffrwythau'n llawn.

Mi glywodd hi Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru hyd yn oed yn canmol yr haf yma y diwrnod o'r blaen - ac i ffarmwr ganmol, meddai, mae'n rhaid ei bod wedi gwneud blwyddyn dda.

Ond bellach, mae newid yn y gwynt ac arwyddion newid tymor ym mhobman.

A does unman lle mae gwyntoedd newid yn chwythu'n gryfach nag yn yr Alban.

Beth bynnag fydd y canlyniad, yn ôl Ifan Morgan Jones ar wefan Ffrwti, dywed rhai fod y jîni allan o'i fotel rŵan, a bydd pleidlais agos yn siŵr o arwain at annibyniaeth o fewn y degawd neu ddau nesaf.

Ond dyw Ifan ddim mor siŵr. Dyw e ddim yn credu, meddai, y bydd y sefydliad Prydeinig, ar ôl yr ysgytwad yma, yn fodlon caniatáu i'r un peth ddigwydd eto.

Image caption Trafod refferendwm yn yr Alban mae Vaughan Roderick yn ei flog

Nid yn unig y byddan nhw am roi'r jîni yn ôl yn ei fotel, mi fyddan nhw am roi corcyn arno wedyn.

Ond mae'r pôl piniwn diweddaraf, sy'n gweld y bwlch rhwng y ddwy ochr yn lleihau, wedi codi braw ar rai, yn ôl Vaughan Roderick ar ei flog.

O'r diwedd fe sylweddolwyd nad yw 'Ie' yn debygol - ond mae'n bosib.

Yn y fath amgylchiadau fe fyddai rhywun yn disgwyl i'r Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid neidio ar yr awyren gyntaf a hedfan i'r Alban i ddadlau dros eu gwladwriaeth, i addo, i rybuddio, i fwlio, i wneud popeth posib er mwyn diogelu eu teyrnas.

Nid felly mae pethau. Mae'n ymddangos eu bod wedi penderfynu mai cadw eu pennau lawr yw'r dacteg orau.

Yn anghymwys

Meddyliwch am hynny am eiliad, medd Vaughan. Ymddengys fod arweinwyr gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn credu eu bod yn anghymwys i ddadlau dros barhad eu gwladwriaeth.

Mae hynny'n dipyn o beth.

Mae Dogfael newydd ddychwelyd o wythnos o wyliau yn yr Alban, a dywed yn ei flog fod 'na ysbryd rhyfeddol yn symud trwy'r rhan o'r wlad y bu e'n ymweld â hi, ac mae'n holi - a yw hi'n bosib y bydd yr Alban ar y ffordd i annibyniaeth erbyn imi ymweld â hi eto?

Ydi, medd yr Hen Rech Flin, sydd ar ei flog yntau'n fwy hyderus nag unrhyw ddarogan arall rydw i wedi'i weld, gan ragweld y bydd Ie yn ennill rhwng 60 a 65% o'r bleidlais.

Image caption Refferendwm yr Alban: bydd rhai'n hapus pan ddaw'r holl drafod i ben

Ond beth bynnag ddigwyddith, mi fydd Gwilym Owen wrth ei fodd pan ddaw'r holl drafod i ben.

Diolch i'r nefoedd, medd yn Golwg, bythefnos i heddiw mi fydd y rhethregu a'r ystrydebu yn tawelu yn y wasg a'r cyfryngau torfol.

Wir? Fy narogan i yw y bydd y trafod a'r dadlau'n parhau ymhell tu hwnt i ddiwrnod y bleidlais, pa bynnag ffordd fydd yr Alban yn penderfynu mynd.

Mae adolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch bob bore Gwener.