Ie neu Na? Pleidlais Cymro yn yr Alban

Ymgyrch ie ac ymgyrch na.
Image caption Ie neu Na? Mae'r ddadl yn poethi!

Mi symudodd Iwan Llion i'r Alban ychydig dros ddeunaw mis yn ôl ac yn y cyfnod byr hwnnw mae wedi wynebu penderfyniad allai newid hanes ei wlad fabwysiedig. Mae'n rhannu ei deimladau gyda BBC Cymru Fyw wrth iddo fwrw ei bleidlais yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban ar Fedi 18:

Cyfle unigryw

Gan fy mod yn fewnfudwr i bob graddau, o barch at y boblogaeth frodorol, mi benderfynais fod yn gymharol dawel fy marn yn gyhoeddus. Ond hefyd gwneud pwynt o wrando a monitro'r consensws yn fanwl ers y cychwyn.

Oherwydd hyn, dwi wedi cael cyfle unigryw i fesur curiad calon cenedl ar fin ateb cwestiwn na ofynnwyd i'w cyn-deidiau ac na fydd yn cael ei ail-ofyn i genedlaethau lawer, os o gwbl.

"Should Scotland be an independent country?" - cwestiwn byr, clir a chryno sydd ar y papurau pleidlais. Ond dyna andros o gwestiwn. Dim bwys beth yw eich daliadau gwleidyddol does dim amheuaeth dylai'r broses o gyrraedd yr ateb fod yn un hir a chymhleth.

Atebais ac anfonais fy mhapur i gyda chroes arno drwy'r post y dydd o'r blaen.

Image caption Cyfarfod cyhoeddus ymgyrch 'Ie'

Yn y dechreuad

Does dim amheuaeth mai "Na" atseiniol fysai'r ateb wedi bod yng ngwanwyn 2013. Hefyd haf 2013. Rwy'n cofio siarad gyda ffrindiau yn y Bala tua'r hydref a sôn, efallai, fod y cwestiwn cywir yn cael ei ofyn ond ar yr amser anghywir. Gyda chymaint o boen a dinistr o gwmpas y byd roedd sôn am annibyniaeth bron yn ddi-chwaeth.

Ond aeth y ddwy ochr ati i gynnal ymgyrchoedd anhygoel o frwdfrydig, teg, sydd erbyn hyn yn destun diddordeb obsesiynol ym mhob cornel o'r wlad - a thu hwnt!

Penderfyniad anodd

Erbyn dechrau 2014 mi welais newid mawr. Roedd fel petai'r mwyafrif o bleidleiswyr "Na" a rhai o'r garfan "Ie" wedi gwneud eu penderfyniad fisoedd, os nad blynyddoedd, ynghynt.

Ond roedd canran uchel iawn heb wneud eu meddyliau.

Y rheswm am hyn oedd y diffyg gwybodaeth - digon o ddata, ond heb ei drosi i "wybodaeth" ddealladwy. Manylion a ffigyrau heb gyd-destun.

Roedd yn hawdd iawn - a bron i mi syrthio i'r trap yma hefyd - i fynd i'r afael â dadansoddi manylion a ffigyrau economaidd cymhleth ac o'r herwydd anghofio'r pynciau a'r rhesymau pwysig ar raddfa mwy uchel. Ar y pryd roedd angen y gallu i sganio data'n fras a dod i rhyw ganlyniad.

Dyna pryd ddechreuodd llyfrau, pamffledi, canlyniadau ymchwil, fideos a'r rhwydweithiau cymdeithasol ffiltro'r data a rhoi gwybodaeth pendant, clir a dealladwy o'n blaenau.

Image caption Iwan Llion: Yn pleidleisio dros neu yn erbyn annibyniaeth ei wlad?

Y we yn hwb i drafodaeth aeddfed

Yn yr Alban mae rhyw raglenni trafod wedi cael eu cynnal bob nos ers misoedd. Ond, O Mam Bach! mor ddiflas.

Yn y byd newydd yma o angen gwybodaeth "dda" yn gyflym ac effeithiol nid yw trafodaethau hirwyntog yn apelio o gwbl.

Felly mae fideos/lluniau ac ardystiadau ar YouTube, Facebook a Twitter wedi codi'r ymwybyddiaeth a chreu diddordeb na fuasai'n bosib fel arall. Dangoswch fod cefnogaeth ar y cyfryngau hyn ac mae'n werth bob bit a byte mewn aur!

Dyma sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ymgyrchu heb os. Mae sôn hwyrach fod dros 95% o'r boblogaeth am bleidleisio - anhygoel.

Ond, pa ochor i'r ddadl sydd wedi cael y budd mwyaf o hyn?

Image caption Yr ymgyrch 'Na' yn ymgyrchu'n frwd

Llais yr ifanc

Pwy sy'n defnyddio rhwydweithio cymdeithasol mwy na neb?

Pwy sy'n cael pleidlais am y tro cyntaf y tro yma yn yr #Indyref?

Pwy sy'n gyffredinol hyblyg ac yn mwynhau defnyddio eu rhyddid meddyliol?

Ieuenctid, wrth gwrs.

Am y tro cyntaf mae rhai 16 a 17 oed yn cael pleidleisio ac mae'r ymgyrchoedd wedi targedu'r ifanc 16 - 24 go iawn. Mae mwy o bleidleisiau i'w hennill, rŵan, nag mewn unrhyw amrediad oed arall. A mwy o siawns i newid meddyliau hyd y diwedd.

Does dim amheuaeth fodd bynnag fod yr ymgyrch "Ie" wedi cael y blaen ar y sector yma gyda dadleuon slic, ffres a deniadol.

Mae dyletswydd ar y cenedlaethau hyn i feddwl am y to ifanc a beth sydd orau iddyn nhw a'u dyfodol.

Tir i'w ennill o hyd

Image caption Mae'r dewis yn glir!

Does dim dwywaith fod yr ymgyrch "Ie" wedi ennill tir mawr ac yn ôl llawer, mae'r momentwm gyda nhw rŵan. Dal ar ei hôl hi o tua 47% a 53% yn niwedd Awst ond wedi closio cryn dipyn mewn deufis o 43% a 57%, ac erbyn hyn yn ôl un arolwg barn ar y blaen o fymryn.

Beth sydd yn bwysig i'w gofio yw'r canran sylweddol (rhwng 8% a 10%, yn dibynnu ar ba arolwg yr ydych chi'n cymryd sylw ohono) sydd heb benderfynu sut y byddan nhw yn pleidleisio. Mae'r ffigwr hwn wedi bod yn eithriadol o gyson dros y misoedd sydd yn awgrymu bod rhain dal i'w hennill.

Dyfodol y bunt

Mi roddodd Osbourne y bêl yn ei rwyd ei hun go iawn ddechrau 2014 drwy ddadlau'n blentynnaidd na fydd posib rhannu'r bunt os oedd annibyniaeth.

A phan mae gwleidyddion eraill megis Cameron, Milliband, Clegg, Gordon Brown mor unedig a phenderfynol nad ydyn nhw o blaid annibyniaeth mae'n gwneud i chi feddwl faint o ddrwg mae rhain yn ei wneud i'r ymgyrch "Na". I gwblhau eu hannifyrrwch mae'r banciau yn bygwth symud i'r de a'r CBI yn codi pob math o fwganod diweithdra heb unrhyw sail pendant. Herio a chythruddo llawer yma. Beth fydd effaith y cynnig diweddar yn gaddo Devo-Max+ i'r Alban os wnawn nhw bleidleisio 'Na'? Amser yn unig a ddengys.

Mae bygythiadau megis ansicrwydd os gallai'r Alban fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yn ddi-sail - gall yr Alban benderfynu os ydyn nhw am fod mewn neu allan ar eu pennau eu hunain yn y man. Rhywbeth sy'n peri cenfigen mawr i'r UKIP bid siŵr! Mae hyd yn oed Faslane ger Helensburgh, lle rwy'n byw, yn mynd i fod yn bencadlys milwrol i Alban annibynnol - fydd Trident yn diflannu beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm?

Pleidlais agos

Mae'r ymgyrch "Na" erbyn hyn fel petai yn dibynnu ar negyddiaeth, pesimistiaeth, dychryn a gwylltio. I'r gwrthwyneb mae'r ymgyrch "Ie" i'w weld yn blodeuo gyda syniadau ffres, hunan-hyder yn eu gwlad a gweledigaeth bositif.

Mae'n mynd i fod yn dynn, yn sicr.

Cawn weld os bydd cenedl annibynnol newydd a balch yn codi ei phen dros Wal Hadrian ar fore Gwener Medi 19 neu a fydd pobl yr Alban wedi penderfynu aros wedi'r cwbl yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Gallwch ddilyn canlyniadau Refferendwm yr Alban yn fyw Nos Iau, Medi 18 ar lif byw BBC Cymru Fyw, BBC Radio Cymru ac S4C o 10:30pm

Image caption Pa faner fydd yn chwifio uchaf ar fore Gwener Medi 19?