Hunangyflogedig: Mwy o weithwyr hŷn

Man looking in job centre window Image copyright Getty Images
Image caption Mae nifer o bobl yn aros yn hunan gyflogedig oherwydd nad ydynt yn gallu dod o hyd i waith, yn ol Jamie Jenkins o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae nifer y bobl sy'n hunangyflogedig yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn 40 mlynedd a hynny'n rhannol, medd un arbenigwr economaidd, oherwydd bod pobl yn penderfynu gweithio yn hirach nag oedran pensiwn.

Ers y gwymp economaidd yn 2008, bu cynnydd yn nifer yr hunangyflogedig yng Nghymru o 13.2% i 14.1% erbyn 2013.

Dywed Jamie Jenkins o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod nifer y bobl hunangyflogedig sy'n gweithio heibio oedran 65 wedi dyblu mewn pum mlynedd.

Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, pobl hunangyflogedig sy'n gyfrifol am 75% o'r cynnydd o ran nifer y bobl sydd mewn cyflogaeth

Oriau hirach

Yn gyffredinol dywed pobl sy'n gweithio i'w hunain fod ganddynt fwy o reolaeth dros eu bywydau.

Ond ar y llaw arall maen nhw'n deud fod yr oriau yn hirach, ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd i beidio â thrafod gwaith.

Fe wnaeth Sam Mackenzie-Grieve sefydlu bar coffi MG yn Aberystwyth 10 mlynedd yn ôl:

"Mae'n andros o anodd i fod yn hunangyflogedig, yn enwedig yn y diwydiant yma, y diwydiant gwasanaethu.

"Rwy'n trio bod yn bositif. Y pethau positif i mi yw fy staff bendigedig a fy nghwsmeriaid gwych - y nhw sy'n cadw fi i fynd.

"Ond ar y llaw arall mae'n rhaid gweithio chwe diwrnod yr wythnos."

Image caption Y gwaith yn galed meddai Sam Mackenzie-Grieve, perchennog bar coffi

Ennill llai

Yn ôl y ffigyrau diweddara y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae 192,000 o bobl Cymru yn hunangyflogedig, 17,000 yn fwy nag yn 2008.

Mae incwm ar gyfer y grŵp yma wedi gostwng 22% yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ac ar gyfartaledd maen nhw'n ennill £207 yr wythnos o'i gymharu â chyfartaledd o £373 ar gyfer pobl sydd mewn swydd cyflogeidig.

Ond mae canran y bobl sy'n gweithio i'w hunain yn amrywio o ardal i ardal. Yn siroedd gwledig Powys a Cheredigion y canran yw tua 27% , tra bod hynny'n gostwng i lai na 10% mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent a Torfaen.

Dywed Jamie Jenkins, arbenigwr ar gyflogaeth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol: "Ers y wasgfa economaidd yn 2008, rydym yn gweld mwy a mwy o bobl hunangyflogedig.

"Ond dyw graddfa pobl sy'n ymuno â rhengoedd yr hunangyflogedig heb newid go iawn dros y pump i chwe blynedd diwethaf.

Image caption Dyw John O'Hagan ddim yn bwriadu ymddeol

"Yr hun sydd wedi digwydd yw bod nifer y bobl sy'n gadael rhengoedd yr hunangyflogedig wedi gostwng yn syfrdanol."

Mae John O'Hagan , 68, wedi gweithio i'w hun ac yn gyrru tacsi yng Nghaerdydd am 26 blwyddyn,.

Mae' o'n dweud ei fod yn gallu cymryd diwrnod o'i waith pan mae o'n dymuno, ond wedyn does yna ddim tâl gwyliau, dim tâl salwch, na chwaith pensiwn cwmni.

"Dwi ddim eisiau ymddeol - yw'r ateb syml." meddai.