Owen Williams yn 'dechrau defnyddio'r gampfa'

Owen a'i gi Riley Image copyright Owen Williams ar Twitter
Image caption Owen a'i gi Riley

Mae Owen Williams, canolwr Gleision Caerdydd a Chymru, yn eistedd i fyny mewn cadair olwyn ac yn dechrau defnyddio'r gampfa er mwyn gwella'r defnydd o'i freichiau.

Mae'r datganiad gan y Gleision hefyd yn dweud ei fod yn parhau i wella yn yr ysbyty, ac yn diolch am y gefnogaeth aruthrol a gafodd ers ei anaf yn Singapore.

Fe gafodd Williams, 22 ei anafu yng nghystadleuaeth y World Club 10s yn Singapore ym mis Mehefin.

Dioddefodd anaf difrifol i'w wddf a'i asgwrn cefn.

Ym mis Gorffennaf, cafodd ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol Rookwood yn Llandaf i barhau gyda'i driniaeth.

Mae'r chwaraewr ifanc wedi ennill pedwar cap i Gymru a sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn y gêm yn erbyn Tonga fis Tachwedd.

Straeon perthnasol