Taith i Andorra

Cymru Pyrenees Image copyright Arall
Image caption Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn Ewro 2016 yng nghesail y Pyrenees

Mae tîm pêl-droed Cymru ar fin dechrau eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2016. Andorra ydi'r gwrthwynebwyr cyntaf ond faint wyddoch chi am y wlad fechan hon ar lethrau'r Pyrenees?

Mae BBC Cymru Fyw wedi casglu ambell i ffaith amdani hi:

Poblogaeth

85,000 o bobl sy'n byw yn Andorra, sy'n cyfateb â chyfanswm torf lawn Stadiwm y Mileniwm a Pharc yr Arfau gyda'i gilydd. Mae tua 23,000 o'r boblogaeth yn byw yn y brifddinas, Andorra la Vella.

Maint

Mae Andorra'n mesur 180.55 milltir sgwâr (467.63 km²), sydd yn ei roi yn safle 191 o ran maint y 249 cenedl wladwriaeth yn y byd. (Gweler map)

Image caption Maint Andorra i'w gymharu â Chymru

Ymwelwyr

Mae tua 9 miliwn o bobl yn ymweld ag Andorra bob blwyddyn, gan ddefnyddio'r 39,000 o stafelloedd mewn 315 o westai, 300km o lethrau sgïo a 1,000 o siopau.

Parroquies

Mae Andorra wedi ei rhannu yn saith plwyf, neu parroquies: Andorra la Vella, Canillo, Encamp, Escaldes-Engordany, La Massana, Ordino a Sant Julia de Loria.

Anthem

Anthem Andorra yw 'El Gran Carlemany', sydd yn deyrnged i Siarlymaen oedd yn teyrnasu rhannau helaeth o Ewrop yn yr 8fed ganrif, ac yn ôl y chwedl roddodd annibyniaeth i Andorra.

Image caption Y Brenin Siarlymaen, yn ôl yr hanes, roddodd annibyniaeth i Andorra

Arian

Yr Ewro yw arian swyddogol er nad ydi Andorra yn aelod swyddogol o'r Undeb Ewropeaidd. Cyn hyn roedden nhw yn defnyddio arian Sbaen, y Peseta ac ar brydiau y Ffranc Ffrengig

Iaith

Catalaneg yw'r unig iaith swyddogol yn Andorra.

Image copyright PA
Image caption Bydd Cymru yn wynebu Andorra ar y maes yma gyda'r golygfeydd trawiadol

Hir oes!

Mae pobl Andorra yn byw, ar gyfartaledd, tan eu bod yn 84 oed. Dim ond yn Monaco a Siapan mae pobl yn byw yn hirach ar gyfartaledd.

Calonogol i Gymru!

Dim ond teirgwaith mae tîm pêl-droed Andorra wedi ennill; yn erbyn Belarws 2-0 (2000), Albania 2-0 (2002) a Macedonia 1-0 (2004).

Image caption A fydd na fuddugoliaeth i Gymru ym mhrydferthwch Andorra?

Gallwch glywed y cyfan yn fyw ar Radio Cymru, gyda'r gic gyntaf am 19:45.