Dim achos newydd yn erbyn cyn bennaeth Awema, Naz Malik

Naz Malik Image copyright BBC news grab
Image caption Cafwyd Mr Malik yn ddi-euog o ddau gyhuddiad, ond nid oedd y rheithgor yn gallu penderfynu ar drydydd cyhuddiad

Ni fydd cyn bennaeth elusen lleiafrifoedd ethnig, Naz Malik, yn wynebu ail achos llys ar gyhuddiad o dwyll.

Yr wythnos diwethaf fe benderfynodd rheithgor fod Mr Malik, cyn bennaeth Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (Awema), yn ddieuog o ddau gyhuddiad yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd un cyhuddiad yn ymwneud â siec am £2,500 ac un arall o ddefnyddio arian yr elusen i dalu am bolisi yswiriant bywyd.

Fe fethodd y rheithgor ddod i benderfyniad ar drydydd cyhuddiad, oedd yn ymwneud â siec o £9,340, ac fe gafodd y rheithgor ei ryddhau.

Ddydd Gwener dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd yna fudd cyhoeddus i geisio am ail achos ar y cyhuddiad yn ymwneud â siec o £9,340.

Cafodd dedfryd ffurfiol ddieuog ei gofnodi yn Llys y Goron Abertawe.

Straeon perthnasol