Cyngor Wrecsam: cynghrair wleidyddol newydd

Neuadd Guildhall Wrecsam
Image caption Roedd gan Lafur 23 o gynghorwyr ar y cyngor cyn yr ymddiswyddiadau

Mae'r 10 o gynghorwyr yn Wrecsam a ymddiswyddodd o'r blaid Lafur ddechrau'r wythnos wedi ymuno â'r garfan annibynnol i ffurfio'r grŵp gwleidyddol mwyaf bellach ar yr awdurdod.

Yn ôl Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, mae'r grŵp yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda phleidiau eraill er mwyn trafod y dyfodol.

Mae arweinydd, dirprwy arweinydd ac aelodau o fwrdd gweithredol y cyngor yn parhau i fod yn eu swyddi nes i gyfarfod llawn o'r cyngor benderfynu fel arall.

Mae'r cyfarfod nesaf o'r fath yn digwydd ar 24 Medi.

Image caption Bydd Neil Rogers yn parhau fel arweinydd tan y cyfarfod llawn nesaf o leiaf

Llafur oedd y blaid fwyaf yn y cyngor gyda 23 o aelodau, a hi oedd yn arwain ar y cyd gyda grŵp o gynghorwyr annibynnol.

Ond ddydd Mercher fe wnaeth 10 aelod Llafur, gan gynnwys arweinydd y cyngor, Neil Rogers, adael y blaid gan gwyno bod Llafur Cymru yn "ymyrryd" gyda'u gwaith.

Mae Llafur wedi dweud bod yr ymddiswyddiadau yn "siomedig" gan ddweud y bydd trafodaethau'n parhau dros y dyddiau nesaf.

Y cynghorwyr heblaw Mr Rogers wnaeth adael eu swyddi oedd Michael Williams, David Griffiths, Bernie McCann, David Bithell, Geoff Lowe, Malcolm Taylor, Barbara Roxburgh, Steve Wilson ac Andy Williams.

Straeon perthnasol