Marwolaeth milwyr: Teuluoedd yn brwydro

Cpl James Dunsby, L/Cpl Edward Maher a L/Cpl Craig Roberts Image copyright MOD/PA
Image caption Bu farw Cpl James Dunsby, L/Cpl Edward Maher a L/Cpl Craig Roberts

Mae dau deulu'n galw am achos troseddol wedi i dri milwr farw o effeithiau gor-boethi yn ystod penwythnos hyfforddi ar Fannau Brycheiniog.

Bu farw Is-gorporal Craig Roberts, 24 oed o Fae Penrhyn, ac Is-gorporal Edward John Maher, 31 oed, wedi hyfforddiant SAS wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5 Selsiws ar Orffennaf 13 y llynedd.

Bu farw Corporal James Dunsby bythefnos yn ddiweddarach.

Fis Gorffennaf eleni, fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fydden nhw'n dwyn cyhuddiadau o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Mewn gwrandawiad cyn y cwest i farwolaeth y dynion yn Birmingham, daeth y newyddion bod dau deulu yn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

All y cwest ddim parhau cyn i apêl y teuluoedd gael ei gynnal.

Fe eglurodd uwch grwner Birmingham a Solihull, Louise Hunt y byddai'r cwest "yn ymchwiliad ehangach, yn edrych ar y trefniadau a phrosesau oedd ar waith pan fu farw'r tri".

Fodd bynnag, meddai Ms Hunt, gan nad yw cwest yn wrandawiad troseddol, fe fydd yn rhaid i arolwg Gwasanaeth Erlyn y Goron ddod i ben yn gyntaf - rhag achosi rhagfarn mewn achos troseddol posib yn y dyfodol.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Straeon perthnasol