Gweilch 43-13 Treviso

Jeff Hassler goes over for a try Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Jeff Hassler yn croesi

Fe wnaeth y Gweilch ddechrau'r tymor newydd gyda buddugoliaeth a phwynt bonws wrth guro Treviso 44-13 yn Stadiwm y Liberty.

Fe wnaeth Nicky Smith, Rhys Webb, Jeff Hassler, Scott Baldwin a Hanno Dirksen groesi'r llinell wrth i'r tîm gartref ymgyfarwyddo heb bedwar chwaraewr rhyngwladol sydd wedi gadael y clwb.

Fe wnaeth Dan Biggar ychwanegu 17 pwynt gyda'i esgid, ac fe wnaeth Joe Carlisle ymateb gydag wyth pwynt i'r ymwelwyr.

Daeth unig gais Treviso gan y clo Marco Fuser.

Fe wnaeth yr asgellwr Eli Walker a'r mewnwr Rhys Webb ddychwelyd o anafiadau ond roedd y Gweilch heb eu capten Alun Wyn Jones, gafodd ei orffwyso.