Ffindir dan 21 2- 2 Cymru dan 21

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2015 dan 21 ar ben ar ôl gêm gyfartal 2-2 yn y Ffindir.

Roedd yn rhaid i Gymru guro er mwyn cael unrhyw obaith o orffen yn ail.

Fe wnaeth Robin Lod roi'r Ffindir ar y blaen ond daeth Cymru yn gyfartal yn yr ail hanner gyda gôl Wes Burns.

Aeth Cymru ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach diolch i gic rhydd Lee Evans, ond sgoriodd Tim Väyrynen ar ôl 87 munud i ddod a'r tîm cartref yn gyfartal.

Gydag un gêm yn weddill Lloegr sydd ar frig y grŵp gyda 25 pwynt, Moldova yn ail (16), Ffindir (13) a Chymru (9).