Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Y Drenwydd 4-3 Prestatyn

Roedd yna wledd o goliau ar Barc Latham wrth i'r Drenewydd guro Prestatyn.

Ar un pryd roedd yr ymwelwyr 2-0 ar y blaen diolch i goliau Lee Hunt (19, 40'). Roedd yna ddwy gôl hefyd i Luke Boundford o'r Drenewydd, gyda'i ail gôl ar ôl 73 munud yn sicrhau'r pwyntiau.

Port Talbot Town 4-1 Derwyddon Cefn

Sgoriodd Martin Rose ( 22'(p), 56') a Luke Bowen (31', 53') ddwy yr un wrth i Port Talbot guro Derwddon Cefn.

Lee Healey (28') sgoriodd gôl gysur yr ymwelwyr.