Forest Green 0-1 Wrecsam

Wrexham's Louis Moult Image copyright Getty Images
Image caption Mae Louis Moult wedi sgorio pedwar gol mewn pump ymddangosiad

Cic rydd wych o 25 llath wnaeth sicrhau tri phwynt i Wrecsam yn Forest Green, y tro cyntaf i'r tîm cartref golli'r tymor hwn.

Hwn oedd pedwerydd gôl Moult mewn pum ymddangosiad i Wrecsam.

Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn symud i'r seithfed safle.

Cafodd yr eilydd Lee Hughes o Forest Green ei anfon o'r maes ar ôl 83 munud ar ôl trosedd yn erbyn y gôl-geidwad, Daniel Bachmann.