Corff: Apêl am wybodaeth

Police operation at Rhos-on-Sea
Image caption Yr heddlu yn Llandrillo-yn-rhos

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i gorff dyn gael ei dynnu o'r môr yn Llandrillo yn Rhos fore dydd Sadwrn.

Dywed yr heddlu fod y dyn rhwng 40 a 50 oed, a thua chwe throedfedd o daldra.

Roedd o gorff llydan, gyda gwallt byr cyrliog oedd yn britho. Roedd o'n gwisgo crys-T du.

Fe wnaeth yr heddlu gyda chymorth gwylwyr y glannau ddod a'r corff i'r lan tua 11:00 dydd Sadwrn.

Bu bad achub yr RNLI o Landudno hefyd yn cynorthwyo.

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal ddydd Sul.

Gallai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 0300 330 0101.