Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Bala 8-1 Caerfyrddin

Mae'r Bala yn symund i'r ail salfe yn yr uwchgynghrair ar ôl rhoi cweir go iawn i Gaerfyrddin ar Faes Tegid. Roedd yna hatric i Mark Connolly, gyda'r goliau eraill yn dod i Ian Sheridan, James Kelly, Ryan Valentine (2) a Mike Hayes (2). Yn rhyfeddol Caerfyrddin aeth ar y blaen gyda Kyle Bassett yn sgorio yn y funud gyntaf.

Rhyl 0-1Aberystwyth

Gôl Chris Venables ar ôl 25 munud wnaeth sicrhau tri phwynt i Aberystwyth yn erbyn y Rhyl sydd ar waelod yr uwchgynghrair. Mae'r canlyniad yn golygu fod Aberystwyth yn y trydydd safle.