Heddlu yn adnabod corff

Police operation at Rhos-on-Sea
Image caption Yr heddlu yn Llandrillo-yn-rhos

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod wedi gallu adnabod y corff gafodd ei dynnu o'r môr yn Llandrillo-yn-rhos fore dydd Sadwrn.

Roedd y dyn 43 oed yn dod o Runcorn yn Sir Caer.

Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Fe wnaeth yr heddlu gyda chymorth gwylwyr y glannau ddod a'r corff i'r lan tua 11:00 dydd Sadwrn.

Bu bad achub yr RNLI o Landudno hefyd yn cynorthwyo.