Zebre 26-41 Gleision

Image copyright Huw Evans agency
Image caption Lloyd Williams yn croesi

Zebre 26-41 Gleision

Fe wnaeth y Gleision ddechrau eu tymor newydd gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Zebre yn Parma.

Fe wnaeth Rhys Patchell, Lloyd Williams, a Dan Fish groesi'r llinell cyn yr egwyl.

Ond roedd Zebre yn bygwth gwneud gêm ohoni gyda Brendan Leonard a Filippo Ferrarini yn sgorio cais yr un i'r tîm cartref.

Ar ôl yr egwyl daeth cais arall i Zebre - yr asgellwr Dion Berryman yn croesi.

Yna daeth ceisiadau gan Dan Fish, Alex Cuthbert a Kristian Dacey i wneud y gêm yn ddiogel.

Roedd Patchell yn hynod gywir gyda'i gicio gan gyfrannu 16 o bwyntiau.

Fe wnaeth Adam Jones ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision mewn gem gystadleuol, a bydd tîm y brifddinas hefyd yn falch o weld Sam Warburton yn ôl yn eu rhengoedd wrth iddo ef ddychwelyd ar ôl anaf i'w ysgwydd.

Zebre: Hendrik Daniller; Dion Berryman, Mirco Bergamasco, Gonzalo Garcia, Leonardo Sarto; Luciano Orquera, Brendon Leonard; Matias Aguero, Andrea Manici, Dario Chistolini, Quintin Geldenhuys (capt), George Biagi, Filippo Ferrarini, Andries Van Schalkwyk, Samuela Vunisa.

Eilyddion: Oliviero Fabiani, Andrea De Marchi, Luciano Leibson, Andries Ferreira, Filippo Cristiano, Guglielmo Palazzani, Kelly Haimona, Edoardo Padovani.

Gleision: Dan Fish; Alex Cuthbert, Cory Allen, Gavin Evans, Owen Jenkins; Rhys Patchell, Lloyd Williams; Sam Hobbs, Matthew Rees (capt), Adam Jones, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Josh Turnbull, Sam Warburton, Manoa Vosawai.

Eilyddion: Kristian Dacey, Thomas Davies, Craig Mitchell, Macauley Cook, Josh Navidi, Lewis Jones, Gareth Davies, Dafydd Hewitt.