Babi Brenhinol arall ar y ffordd

Kate Middleton

Mae Duges Caergrawnt yn disgwyl ei hail fabi.

Cyhoeddodd Palas Kensington fore dydd Llun bod y "Frenhines a'r ddau deulu wrth eu boddau gyda'r newyddion".

Ychwanegodd y llefarydd ar ran y Palas: "Fel gyda'i beichiogrwydd cyntaf mae'r Dduges yn dioddef o Hyperemesis Gravidarum [salwch bore].

"Ni all Ei Huchelder Brenhinol fynd gyda Dug Caergrawnt i'r digwyddiad oedd wedi ei gynllunio yn Rhydychen heddiw.

"Mae'r Dduges yn cael triniaeth gan feddygon ym Mhalas Kensington."