Gweilch yn arwyddo Steenkamp

De Kock Steenkamp

Mae'r Gweilch wedi arwyddo'r clo o Dde Affrica De Kock Steenkamp.

Daw'r gŵr 27 mlwydd oed o'r Stormers lle bu'n chwarae ers 2010 ac mae'n cael ymuno â'r tîm o Gymru wedi i'r Undeb Rygbi roi eu cymeradwyaeth.

Bydd y Gweilch yn gobeithio y bydd yn gallu llenwi'r bwlch gafodd ei adael gan ymadawiadau Ian Evans a Ryan Jones i Fryste.

Dywedodd Steenkamp mewn datganiad: "Rwy'n gobeithio gallu ymuno â'r tîm yn fuan a chwarae rhan mewn helpu i sicrhau bod y Gweilch yn parhau i fod y tîm gorau yng Nghymru ac ymysg y gorau yn Ewrop."

O dan y rheolau presennol byddai Steenkamp yn gallu chwarae i Gymru ar ol iddo fyw yn y wlad am gyfnod o dair blynedd.