Darlledu cyhyrchiad o Under Milk Wood o Efrog Newydd

Michael Sheen
Image caption "Mae'n anrhydedd ac yn wefr," meddai Michael Sheen

Bydd Michael Sheen yn cyfarwyddo ac yn serennu mewn perfformiad o Under Milk Wood ar gyfer BBC Radio Wales yng nghanolfan ddiwylliannol 92nd Street Y Efrog Newydd, lle dangoswyd y 'ddrama i leisiau' yn gyntaf yn 1953.

Bydd y ddrama radio yn cael ei darlledu'n fyw ar BBC Radio Wales ar 26 Hydref am 8pm, i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Cafodd y ddrama ei darlledu am y tro cyntaf ym mis Ionawr 1954, ychydig fisoedd ar ôl i'r bardd farw yn Efrog Newydd.

Dywedodd Michael Sheen, "Mae'n anrhydedd ac yn wefr i allu perfformio Under Milk Wood yn y flwyddyn arbennig hon ac ar y llwyfan ble y'i clywid yn gyntaf.

"Ac mae'r darllediad radio byw yn gyfle i ddathlu ef a'i waith yn Efrog Newydd - dinas a ddaeth mor bwysig i Dylan - ac, ar yr un pryd, yng Nghymru, ei ysbrydoliaeth a'i gartref."

Yn ogystal â chyfarwyddo, bydd Sheen yn darllen "Y Llais Cyntaf", adroddwr y ddrama, rhan a gymerodd Dylan ei hun yn y perfformiad cyntaf yn 1953.

Cymry yw'r cast i gyd, yn cynnwys yr actores Kate Burton - fe wnaeth ei rhieni, Sybil Williams a Richard Burton, gymryd rhan yn recordiad radio cyntaf y BBC o Under Milk Wood ym 1954, dim ond dau fis ar ôl marwolaeth y bardd yn Efrog Newydd.

Straeon perthnasol