Castell Caerdydd: Dau fag â ffrwydron

Arweinwyr gwledydd y byd, gan gynnwys Barack Obama a David Cameron, yng Nghastell Caerdydd nos Iau Image copyright AP
Image caption Daethpwyd o hyd i'r bagiau oriau cyn i arweinwyr gwledydd y byd, gan gynnwys Barack Obama a David Cameron, giniawa yng Nghastell Caerdydd nos Iau

Mae Heddlu Gwent wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i ddau fag gyda ffrwydron ynddyn nhw mewn gwrych ger Castell Caerdydd brynhawn Iau, oriau cyn i arweinwyr byd ymgynnull yno i giniawa yn ystod uwchgynhadledd Nato.

Yn y bagiau roedd tân gwyllt, blychau creu mwg, ffaglau tân, peli tenis wedi eu llenwi gyda phaent a theclyn ar gyfer taflu peli ymhell.

Mae plismyn yn credu bod y bag wedi cael ei adael yno er mwyn ei ddefnyddio wrth i'r arweinwyr gyrraedd.

Roedd 60 o arweinwyr yng Nghymru ar gyfer y gynhadledd, yn ogystal â 4,000 o gynrychiolwyr eraill a miloedd o staff cefnogol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.