Leanne Wood: Prif weinidog yn 'dewis a dethol' pwerau

Calendr Image copyright Thinkstock
Image caption Bydd canlyniad refferendwm yr Alban yn glir ar 19 Medi

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi ymosod ar alwad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y dylai unrhyw ddatganoli pellach i'r Alban gael ei gynnig i Gymru.

Yn siarad wrth ymgyrchu yn yr Alban ddydd Llun, dywedodd Ms Wood bod galwad Carwyn Jones yn "jôc" a chyhuddodd y prif weinidog o "ddewis a dethol" pwerau pellach.

Daeth galwad Mr Jones ar ôl i ymgyrchwyr yn erbyn annibyniaeth yn yr Alban greu amserlen ar gyfer datganoli pellach i roi mwy o bwerau i Gaeredin.

Mae ymgyrch Better Together wedi gwadu bod y cynlluniau yn arwydd o banig ar ôl i arolwg barn awgrymu eu bod wedi disgyn y tu ôl i'r ymgyrch Ie yn ddiweddar.

Treth incwm

Mewn neges ar wefan Twitter ar ôl arolwg YouGov ar gyfer y Sunday Times, dywedodd Mr Jones: "Pe bai yna fwy o ddatganoli sy'n cael ei gynnig i'r Alban, fe ddylai hefyd gael ei gynnig i Gymru a Gogledd Iwerddon."

Ond ychwanegodd na fyddai rheolaeth dros y dreth incwm o fudd i Gymru.

Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddant yn caniatáu hawliau treth incwm i'r Alban pe bai yna fwyafrif 'Na' yn y refferendwm.

Dywedodd Leanne Wood, sy'n ymgyrchu yn Glasgow: "Mae pobl Cymru yn or-gyfarwydd ag addewidion gwag Llafur, y Toriaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Yr oedd canlyniad Comisiwn Silk ar fwy o ddatganoli i Gymru yn enghraifft berffaith o dair plaid yn tanseilio proses trwy ddewis a dethol ac ychwanegu caveats, fel y cloi cyfraddau ar bwerau rhannu trethi.

"Rhoddodd ASau Plaid Cymru nifer o gynigion yn Nhŷ'r Cyffredin i gryfhau ein heconomi a'n democratiaeth, ond pleidleisiwyd yn eu herbyn dro ar ôl tro gan wleidyddion yn chwarae gemau ac yn amddiffyn buddiannau elite San Steffan yn hytrach na phobl Cymru".

Confensiwn cyfansoddiadol

Mae disgwyl i Mr Jones fynd i'r Alban yr wythnos hon i ymuno ag aelodau o'r Blaid Lafur fel rhan o'r Ymgyrch 'Na'.

Dywedodd Mr Jones ei fod am i gonfensiwn cyfansoddiadol gael ei gynnal er mwyn trafod datganoli led led y DU.

"Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o dderbyn pwerau newydd pe bai yna gost sylweddol a hynny heb fod unrhyw adnoddau yn cael eu trosglwyddo.

"Mae'n rhaid i strwythur datganoli fod yr un peth led led y DU, hyd yn oed os yw pwerau datganoledig yn wahanol."

Eisoes mae rhai pwerau treth a benthyca yn cael eu datganoli i Fae Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys rheolaeth rannol o'r dreth incwm, pe bai pleidlais mewn refferendwm yn cymeradwyo hynny.

Straeon perthnasol