Cwest: 'Wedi ei tharo yn ei hwyneb'

Judith Garrett Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Judith Garrett ar ôl cael anafiadau difrifol i'w phen

Mae cwest wedi clywed bod menyw gafodd ei tharo gan feic mynydd wrth wylio ras yn Llangollen wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.

Cafodd Judith Garrett, 29 oed o Northumberland, ei chludo i Ysbyty Stoke ar ôl bod yn gwylio'r ras yn Nhŷ'n y Graig ger Llangollen ar 31 Awst, ond bu farw'n ddiweddarach.

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod patholegydd wedi dweud iddi gael ei tharo yn ei hwyneb.

Cafodd y cwest ei ohirio tan fis Ionawr.