Cyfleusterau ysbytai'n methu'r rheiny â nam ar eu clyw

Derbynfa ysbyty Image copyright Thinkstock
Image caption Mae rhybudd y gallai mannau fel derbynfeydd ac ystafelloedd aros fod heb gyfleusterau addas

Dyw ysbytai yng Nghymru ddim yn rhoi digon o gefnogaeth i gleifion sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw, yn ôl mudiad sy'n edrych ar ôl buddiannau cleifion.

Roedd cynghorau iechyd cymunedol wedi ymweld â 68 ardal o gwmpas 22 o ysbytai, gan ddod i'r casgliad fod 33 ohonyn nhw'n rhoi cymorth "anfoddhaol".

Roedd dolenni gwrando - sy'n galluogi pobl gyda theclyn clyw i glywed cyhoeddiadau - naill ai ddim wedi'u gosod mewn nifer o dderbynfeydd nac ar wardiau, neu wedi torri, neu doedd staff ddim yn deall sut i'w defnyddio.

Ond mae llywodraeth Cymru'n mynnu eu bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol i safon gwasanaethau clyw GIG Cymru.

O dan ddeddfau cydraddoldeb, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael ag anghenion cyfathrebu a mynediad.

Ymhlith y 33 safle oedd yn "anfoddhaol", roedd mannau allweddol fel adrannau brys, clinigau a theatrau dydd, a phrif dderbynfeydd.

'Dinasyddion eilradd'

Dywedodd Cathy O'Sullivan, o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan, eu bod yn defnyddio teclyn arbennig i brofi dolenni a'u bod yn adnodd pwysig iawn i bobl.

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi torri'r cyllid ar gyfer cynnal yr archwiliad hwn eto eleni ac na ddylai pobl â nam ar eu clyw gael eu trin fel dinasyddion eilradd.

Yn ôl Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru, tydi pethau ddim yn gwella ac mae gormod o bobl yn wynebu anawsterau oherwydd y math yma o broblemau.

Yn ogystal, mae rhai pobl â nam ar eu clyw yn cael eu rhoi mewn peryg oherwydd nad ydyn nhw'n derbyn gwybodaeth eglur.

Mae Megan Rennoldson, sydd â nam ar ei chlyw, wedi cael profiadau negyddol yn Nhrefynwy, Casnewydd a'r Fenni.

Erbyn hyn mae Megan wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio dolenni gwrando, gan yn hytrach fynd â ffrind gyda hi pan mae hi'n ymweld â'r ysbyty.

Mae hi'n teimlo na ddylai pobl â nam ar eu clyw orfod byw mewn "byd ar wahan" pan maen nhw'n defnyddio gwasanaethau, ac mae hi'n aml yn mynd i'r sinema ac yn defnyddio eu dolenni gwrando nhw heb unrhyw drafferth.

Yn ôl gwefan llywodraeth Cymru, dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae dyletswydd gyfreithiol i wneud "addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau cydraddoldeb wrth dderbyn gwasanaethau iechyd i bobl anabl".

Mae angen i gyrff cyhoeddus "weithredu'n bositif" er mwyn sicrhau bod gofynion derbyn gwasanaethau a chyfathrebu yn cael eu diwallu.

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymroi'n llwyr i sicrhau bod pob claf yn gallu derbyn y gofal iechyd mae arnyn nhw ei angen.

"Rydym ni wedi gwneud gwelliannau sylweddol i safon gwasanaethau clyw GIG Cymru.

"Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol, gan gynnwys darparu gwasanaethau clyw a gosod dolenni gwrando ac rydym yn disgwyl iddyn nhw ddiwallu anghenion cleifion.

"Byddwn ni hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o'r GIG, gan gynnwys y trydydd sector, er mwyn rhoi cymorth i ni ddatblygu ein cynlluniau i wneud gwelliannau pellach i wasanaethau clyw."

Straeon perthnasol