Carwyn Jones yn 'pryderu' am ddyfodol Cymru

Carwyn Jones
Image caption Mae Carwyn Jones yn yr Alban yn cefnogi'r ymgyrch i gadw'r wlad yn rhan o'r DU

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn pryderu am ddyfodol Cymru pe bai pleidlais 'Ie' yn yr Alban.

Yn siarad wrth iddo ymweld â'r Alban ddydd Mawrth i gefnogi'r ymgyrch 'Na', dywedodd hefyd ei fod yn derbyn fod sefyllfa wleidyddol y DU angen newid.

Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu fod yr ymgyrch 'Ie' wedi gweld cynnydd sylweddol.

Mae prif bleidiau San Steffan oll wedi addo rhagor o bwerau i'r Alban os fyddan nhw'n pleidleisio yn erbyn annibyniaeth - gan ddweud na fyddan nhw'n cyhoeddi'r manylion tan ar ôl y refferendwm ar 18 Medi.

Yn ogystal mae pwyllgor Seneddol wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddyfodol datganoli yn dilyn y bleidlais, gyda'r cadeirydd yn dweud ei fod o blaid gweld Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael yr un cynnig datganoli â'r Alban.

'Pam?'

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn poeni beth fyddai effaith pleidlais dros annibyniaeth, dywedodd Mr Jones: "Ydw. Roedd llawer o bobl yn siarad â mi bore 'ma, yng Nghymru, ynglŷn â'u pryderon am beth fyddai'n digwydd."

Dywedodd fod yr Alban yn dod â chydbwysedd i'r DU, ac er mai dim ond ychydig mwy yw'r Alban o ran poblogaeth - 4.8 miliwn o'i gymharu â 3.1 miliwn - mae'r wlad yn "ymddangos i fod llawer mwy oherwydd y pwysau mae hi'n ei gario o fewn y DU".

Ychwanegodd: "Gyda'r Alban wedi mynd, mi fyddai'n rhaid gwneud llawer o waith i sicrhau fod beth sydd ar ôl yn sefydlog wrth symud ymlaen. Mi fyddai gennych chi wlad fawr, sef Lloegr, a dwy wlad llawer llai, sef Cymru a Gogledd Iwerddon.

"Mae hyn yn bosib - byddai'n rhaid i chi weithio mas be fyddai'r enw, pa faner fyddai'n ei ddefnyddio - mae modd gwneud hyn, ond rwy'n dod 'nôl at fy mhwynt: pam bod angen gwneud hyn? Pam fod angen cymryd y risg?

"Llawer gwell i'r Alban a Chymru i fwynhau eu hunaniaethau cenedlaethol, mwynhau eu llywodraethau datganoledig ac ar yr un pryd mwynhau'r sefydlogrwydd sy'n dod fel rhan o'r DU."

'Tila iawn'

Image caption Mae Simon Thomas yn credu bod y momentwm gyda'r ymgyrch 'Ie'

Bu aelod cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas yn siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru, gan ddweud bod y prif bleidiau yn San Steffan wedi ei gadael hi'n rhy hwyr cyn cyhoeddi amserlen ar gyfer datganoli pellach yn Yr Alban.

Fe ddywedodd bod cynnig San Steffan yn ymddangos yn "dila iawn", ac y dylen nhw fod wedi sicrhau fod ail gwestiwn 'Devo Max' ar y papur pleidleisio ddwy flynedd yn ôl.

Fe ddywedodd ei fod e'n fwyfwy hyderus y bydd ymgyrch dros bleidlais 'Ie' yn llwyddiannus.

"Dw i ddim yn ddyn betio. Dw i erioed wedi gweld bwci tlawd - dyna'r wers gynta' ges i gan fy nhad-cu...

"Ond os edrychwch chi ar y polau, mae'r tri pôl d'wetha wedi rhoi 'Ie' ar y blaen neu'n gyfartal. Dw i'n creu fod y momentwm gyda'r ymgyrch 'Ie'.

"Dw i'n credu y bydd hi'n bleidlais agos iawn, iawn - ond 'dw i'n fwy hyderus nag erioed."

Ymchwiliad

Image caption Mae Mr Allen eisiau gweld Cymru'n cael yr un cynnig â'r Alban

Brynhawn dydd Mawrth fe ddaeth cyhoeddiad y bydd ymchwiliad Seneddol yn cael ei gynnal i ddyfodol datganoli yn fuan ar ôl y refferendwm.

Yr AS Graham Allen yw Cadeirydd y Pwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol, a dywedodd: "Mi fydd goblygiadau'r refferendwm, bydded e'n ie neu na, ar gyfer ein democratiaeth yn cael ei archwilio gan y pwyllgor dethol ac mi fydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r Senedd a'r cyhoedd.

"Mae'r ymchwiliad yn debygol o gynnwys ystyriaeth o'r angen am gynnig y lefelau datganoli sy'n cael eu cynnig i'r Alban i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda chyfansoddiad ysgrifenedig er mwyn sicrhau'r trefniant hwnnw...

"Rydym yn byw mewn amser cyffrous iawn i'n democratiaeth ac rwy'n awyddus iawn i afael yn y cyfle i ystyried dyfodol datganoli.

"Fy safbwynt i yw - os yw e ddigon da i'r Alban, mae ddigon da i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Straeon perthnasol