Dan-21: Lithwania 1-1 Cymru

Lee Evans
Image caption Mae Evans yn chwarae i Wolves

Er iddyn golli o 0-1 ar un adeg fe gipiodd Cymru bwynt yn erbyn Lithwania yng ngêm olaf eu hymgyrch i geisio cyrraedd Euro 2015.

Rhoddodd yr eilydd Edvardas Tamulevicius ei wlad ar y blaen gyda dim ond naw munud ar ôl ar y cloc.

Ond fe lwyddodd Lee Evans i rwydo yn yr eiliadau olaf.

Roedd Cymru yn bedwerydd yng Ngrŵp Un wrth i Loegr orffen yn gyntaf a Ffindir yn ail.