Lansio canolfan ymchwil gofal clwyfau

Ysbyty
Image caption Mae gofalu am glwyfau yn cyfrif am tua 5% o gyllideb y GIG.

Bydd canolfan ymchwil i fynd i'r afael â'r "epidemig tawel" o ofal clwyfau yn cael ei lansio ddydd Mercher.

Mae trin clwyfau yn ysbytai Cymru ac mewn cartrefi a chlinigau yn costio £156 miliwn bob blwyddyn i'r GIG yng Nghymru.

Mae'r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau yn gobeithio gwella triniaethau a datblygu gwahanol gynnyrch gyda chwmnïau technoleg biolegol.

Bydd y ganolfan yn Llantrisant yn gweithio gyda chleifion o Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

5% o gyllideb y GIG

Mae gofalu am glwyfau - sy'n cynnwys ymdrin â phroblemau fel doluriau gwasgu a heintiad yn dilyn llawdriniaeth - yn cyfrif am tua 5% o gyllideb y GIG, ac mae'r ffigwr yn parhau i gynyddu.

Bydd y ganolfan newydd yn cael ei chyd-arwain gan yr Athro Keith Harding, Pennaeth Uned Ymchwil Gwella Clwyfau Prifysgol Caerdydd, sydd wedi bod yn ymchwilio i wella clwyfau ers dros 22 mlynedd.

Mae'r gwaith ymchwil hwnnw yn cynnwys gwaith arloesol ar ddefnyddio gynrhon i lanhau clwyfau.

Mewn ysbyty cyffredin bydd rhwng 25% a 40% o welyau yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion gyda chlwyfau.

Gall nyrsys yn y gymuned wario rhwng 25% a 75% o'u hamser yn trin clwyfau.

'Problem ddrud iawn'

Dywedodd yr Athro Harding: "Mae trin cleifion gyda chlwyfau, os ydi'r rheiny'n gronig, difrifol neu drawmatig, yn broblem ddrud iawn i'r gwasanaeth iechyd - a hynny heb sôn am y gost emosiynol i gleifion a'u teuluoedd."

Aeth ymlaen i ddweud y byddai'r ganolfan yn ystyried gwelliannau posibl er mwyn atal a thrin clwyfau, gyda'r nod o leihau ymweliadau â'r ysbyty a sicrhau bod yr ymweliadau hynny'n rhai byrrach.

Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag arian gan saith bwrdd iechyd lleol a'r sector preifat. Mae'r ganolfan yn gobeithio y bydd yn gallu talu ei ffordd mewn tair blynedd drwy grantiau a ffynonellau masnachol.

Cyflogi 31 o bobl

Mae'r ganolfan eisoes yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bum busnes bychan sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, gan gynnwys busnesau o'r Unol Daleithiau ac Awstralia.

Mae 31 o bobl yn cael eu cyflogi yn y ganolfan, gan obeithio denu o leiaf 11 o fuddsoddiadau o dramor, er mwyn creu 45 o swyddi pellach dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ddiweddar mae'r ganolfan wedi derbyn grant ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Meddygol er mwyn helpu gwyddonwyr i ddatblygu prawf diagnostig i wella'r driniaeth rheoli clwyfau cronig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Mae'r boblogaeth yn heneiddio a bydd yr amser a'r gost sydd ynghlwm â thrin a rheoli clwyfau yn cynyddu. Dim ond drwy edrych ar ffyrdd newydd o drin clwyfau y gallwn ni reoli'r tuedd hwn a gwella safon bywydau pobl."

Yn y dyfodol bydd Cofrestr Clwyfau Cenedlaethol yn cael ei sefydlu er mwyn casglu'r holl wybodaeth ar driniaeth a thueddiadau.