Arglwydd Elystan Morgan: 'Cyfle ardderchog' i'r Alban

Arglwydd Elystan Morgan
Image caption Croesfeinciwr yw'r Arglwydd Morgan sydd yn cefnogi'r Blaid Lafur

Mae'r Arglwydd Elystan Morgan wedi dweud fod gan yr Alban "gyfle ardderchog" i ennill ei hannibyniaeth.

Dywedodd yr Arglwydd Morgan ar Newyddion 9 nos Fawrth ei fod eisiau gweld ymagwedd fwy "niwtral" gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Ddydd Llun fe aeth Mr Jones i'r Alban er mwyn ceisio dwyn perswâd ar Albanwyr i aros o fewn y Deyrnas Unedig.

Ond ar yr un rhaglen fe ddywedodd cyn Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Rod Richards mai "mewn undod mae nerth" gan rybuddio y gallai'r Alban fod ar ei cholled petai'n gadael yr undeb.

'Nerthoedd mawr'

Image caption Mae Carwyn Jones wedi bod yn yr Alban yn ymgyrchu gyda Better Together

Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan bydd pobl yr Alban yn pleidleisio, fe wnaeth yr Arglwydd Morgan ymbil arnynt i neidio ar y cyfle.

"Does dim amheuaeth gen i bod 'na gyfle ardderchog nawr i'r Alban i ennill ei hannibyniaeth," meddai, "ac os gwneith hi hynny rwy'n credu y bydd yna awyr iach yn llifo drwy wleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl.

"Ma' na gymaint sydd yn negyddol wedi cael ei ddweud ac yn dal i ddigwydd gan yn yr ymgyrch 'Na'. Cofiwch hyn - ma' rhai o wledydd mwyaf ffyniannus y byd yn wledydd bychan.

"Gwledydd ydyn nhw sydd wedi ennill eu hannibyniaeth, ond nid drwy eistedd lawr a thynnu papur a phensil allan a dweud 'tybed allwn ni brofi y tu hwnt i sicrwydd bod hyn yn mynd i dalu i ni'.

"Mae yna nerthoedd mawr yn bodoli o fewn cenhedlaeth ac mae'r nerthoedd hynny'n cael eu rhyddhau yn aml iawn pan maen nhw'n dod yn annibynnol."

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i weld Carwyn Jones yn "fwy niwtral yn y mater ac yn edrych arno fe fwy yn holl gwmpas hanes".

Pryder am amddiffyn

Doedd Rod Richards ddim yn cytuno y byddai annibyniaeth o les i'r Alban - ond awgrymodd y gallai Cymru elwa'n economaidd yn sgil hynny.

Dywedodd: "Mewn undod y mae nerth.

"Rwy'n meddwl bod Carwyn yn iawn i boeni ond ar ôl dweud hynny wrth gwrs ar hyn o bryd mae'r Alban yn cael £10 biliwn yn rhagor mewn gwariant cyhoeddus na mae'n godi mewn trethi.

"Felly o'r diwrnod cyntaf bydd gan y Trysorlys £10 biliwn yn rhagor a falle bydd yn gyfle newydd falle i Carwyn a David Cameron fynd ati ac edrych o'r newydd ar Fformiwla Barnett.

"Mi fydden ni'n elwa o hynny ond yn gyffredinol mi fydde fe'n drychinebus pe bai'r Alban yn gadael os dim ond y gwendid yn ein hamddiffyn ni."

Fe ddywedodd Carwyn Jones ddydd Mawrth ei fod yn pryderu am ddyfodol Cymru pe bai'r Alban yn pendefynu gadael y DU.

Pa ffordd aiff y bleidlais? Golygydd Materion Cymreig y BBC Vaughan Roderick sy'n cynnig ei ddadansoddiad.

"Be sy'n ddiddorol 'dw i'n meddwl wrth edrych ar yr ymgyrch 'Na' yw bod nhw'n sydyn wedi sylweddoli fel eu bod wedi methu cyflwyno unrhyw fath o ddarlun cadarnhaol o'r undeb - hynny yw chi'n gweld darllediad gwleidyddol gan yr ochr 'Na' heddiw sydd bron a bod yn efelychiad o'r math o ddarllediadau sydd wedi bod gan yr ymgyrch 'Ie' o'r dechrau, yn sôn am y dyfodol yn nhermau gobaith ac edrych 'mlaen.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n ddigon posib i'r naill ochr neu'r llall ennill - faswn i ddim yn mentro swllt y naill ffordd na'r llall. Hynny yw ry' ni'n gwybod mewn pleidleisiau fel hyn yn aml iawn reit ar ddiwedd y dydd falle bod 'na ryw ofn fach yng nghefn meddwl rhywun sydd yn gwneud i'r pensil hofran a mynd i'r 'na' yn hytrach nag 'ie' - mae hynny yn gallu digwydd.

"Y polau sydd yn ddiddorol i'w gweld ydi'r rhai sy'n dod dros y penwythnos. Os ydi'r 'Ie' wedi symud yn bellach ar y blaen yna dwi'n meddwl bod dyfodol y Deyrnas Unedig o bosib yn tynnu at ei therfyn."

Yn siarad ar raglen Daily Politics y BBC, gwadodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb bod penderfyniad arweinwyr y tair prif blaid Brydeinig i fynd i'r Alban i wneud yr achos dros yr undeb ar y munud diwethaf yn profi bod panig yn San Steffan ynghylch beth fydd y canlyniad.

"Mae'n hollol iawn i arweinwyr y pleidiau i wneud safiad gyda'i gilydd," meddai.

"I fynd i'r Alban i ddweud 'mae hyn wir yn bwysig' ac i ddweud wrth bobl yr Alban ein bod ni wir eisiau iddyn nhw aros efo ni, i aros efo'r teulu o wledydd o fewn y DU.

"Mae David Cameron wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r Alban ers iddo gael ei wneud yn Brif Weinidog gan siarad gyda'i ben ac o'i galon gan esbonio pam ei fod eisiau gweld yr Alban yn aros gyda'r teulu o wledydd, y DU."

Fe ddywedodd Mr Cameron yng Nghaeredin brynhawn Mawrth mai nid pleidlais yn erbyn yr "effing Tories" oedd hon, ond pleidlais ynghylch gwahanu "am byth".

Dywedodd hefyd y byddai ef yn helpu'r Alban i wahanu os mai dyna oedd eu penderfyniad, gan gadarnhau ei fod yn bwriadu parhau fel Prif Weinidog beth bynnag yw'r canlyniad.