Cymru yn cael eu cyhuddo gan Uefa

Gareth Bale a Joe Ledley Image copyright Getty Images
Image caption Fe redodd rai o'r gefnogwyr ar y cae ar ôl ail gôl Gareth Bale

Mae Uefa wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnal gwrandawiad disgyblu wedi i rai o gefnogwyr Cymru redeg ar y cae yn y gêm yn erbyn Andorra.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal ar 16 Hydref i drafod a ddylid cymryd camau yn erbyn Cymru ar ôl i ail gôl Gareth Bale arwain at rai cefnogwyr yn dod ar y cae.

Mi fydd y panel disgyblu hefyd yn trafod a ddylai Andorra wynebu cosb am ymddygiad eu chwaraewyr am eu diffyg trefn, ac am dderbyn chwe cherdyn melyn.

Fe enillodd Cymru o 2 - 1 ar y noson, mewn gêm flêr ar gae artiffisial gafodd ei feirniadu'n hallt gan sylwebwyr am beidio â bod yn ddigon da.

Straeon perthnasol