Gyrrwr beic modur wedi marw

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ar yr A5104 ym Mryneglwys ger Corwen.

Cafodd yr heddlu eu galw yno am 12:38.

Cafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam lle mae'n derbyn triniaeth am anafiadau sydd ddim yn cael eu hystyried i fod yn ddifrifol.

Mae'r ffordd ar gau o'r gylchfan ger Bwlch yr Oernant.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.