Wythnos i fynd tan Refferendwm Annibyniaeth yr Alban

Bathodynau

Gydag wythnos yn union i fynd tan refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, mae'r ymgyrchu ffyrnig yn parhau rhwng y rheiny sydd eisiau gweld y wlad yn torri'n rhydd, a'r rheiny sydd eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn parhau yn ei ffurf bresennol.

Mae'r ymgyrchoedd yn anghytuno ar nifer o faterion pwysig, a dau o'r mwyaf yw arian ac adnoddau olew a nwy.

Mae un economegydd wedi dweud bod y ffigyrau yn dangos y byddai Alban annibynnol yn gallu talu ei ffordd, ond mae'n dweud bod ansicrwydd am sut y byddai arian a ddaw o olew a nwy yn cael ei rannu.

A fyddai Alban annibynnol hyd yn oed yn parhau i ddefnyddio'r bunt? Mae rhai yn amheus o effaith ariannol annibyniaeth.

Gor-ddibynnol ar olew?

Image copyright Thinkstock
Image caption Gall fod digon o olew ym Môr y Gogledd i gyflenwi gwaith drilio am rhwng 30-40 o flynyddoedd

Mae olew yn sicr yn un o'r meysydd y mae trafod mawr arno wrth i'r bleidlais agosáu.

Bu'n bwnc trafod ers y saithdegau ac ai'r diwydiant yma sy'n golygu y byddai'r Alban yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun, a ffynnu? Oes 'na beryg hefyd y byddai Alban annibynnol yn or-ddibynnol ar adnoddau môr y Gogledd?

Yn ôl yr economegydd Eurfyl ap Gwilym, sydd hefyd yn ymgynghorydd i Blaid Cymru: "Pob blwyddyn mae gwasanaeth sifil yr Alban yn cynhyrchu adroddiad helaeth ar incwm a gwariant y llywodraeth.

"Os ydych chi'n edrych ar hynny, ac ar bethau eraill fel GDP yr Alban ac yn y blaen, mae'n amlwg y gall yr Alban dalu ei ffordd.

"Un ansicrwydd go fawr yw sut y byddan nhw'n rhannu'r arian sy'n deillio o Fôr y Gogledd gyda'r olew a'r diwydiant nwy.

"Ar hyn o bryd mae'r Trysorlys yn trin hwnnw fel rhywbeth sydd ar wahân i'r Alban ac i Loegr. Yn amlwg pe bai'r Alban yn dod yn annibynnol, byddan nhw'n cael cyfran uchel iawn o'r rhanbarth hwnnw hefyd."

Y bunt ai beidio?

Image copyright PA
Image caption Mae anghytuno mawr rhwng yr ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn annibyniaeth am ba arian fyddai'n cael ei ddefnyddio petai pleidlais 'Ie'

Mae dyfodol y bunt hefyd yn bwnc llosg ymhlith yr ymgyrchoedd 'Ie' a 'Na'.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi dweud y byddai'r Alban a gweddill y Deyrnas Unedig yn rhannu'r bunt - dim o'r fath beth yn ôl y Canghellor, George Osborne - all Alban annibynnol ddim cadw'r bunt.

Mae Mark Walter, partner mewn cwmni cysylltiadau cyhoeddus ariannol yn Llundain, wedi bod yn amheus o'r dadleuon economaidd o blaid annibyniaeth.

Meddai: "Mae 'na domen o gwmniau ariannol anferth, banciau ac ati, yn yr Alban, fel RBS yn amlwg, a'r broblem iddyn nhw ydy, os ydyn nhw yn gwahanu, a fyddan nhw'n gallu defnyddio'r bunt yn y dyfodol?

"Mae pethau fel hyn yn newid ansawdd busnes llawer iawn."

Y prif beth i bobl yr Alban ydy a fyddan nhw'n teimlo'n well eu byd o dan drefn annibynnol ai peidio.

Yn ôl yr ymgyrch 'Ie', mi fyddai pobl £1,000 y pen yn well eu byd bob blwyddyn o ddewis annibyniaeth.

Yn ôl yr ymgyrch 'Na', mi fydden nhw'n £1,400 yn well o aros yn y Deyrnas Unedig.

Mi fydd yn ddewis mawr - y dewis mwyaf erioed, o bosib, i rai o'r rheiny fydd yn pleidleisio. Bydd angen gofyn a fydd ganddyn nhw fwy o bres yn eu pocedi - boed y pres hwnnw'n bunnoedd, ai peidio.