Buddugoliaeth i Forgannwg

Criced Morgannwg

Fe ddaeth buddugoliaeth i Forgannwg mewn gêm bencampwriaeth am y tro cyntaf ers dechrau Mehefin yn erbyn Sir Derby yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.

Roedd batwyr Morgannwg wedi dechrau'r trydydd diwrnod ar 145 am 5, ac yn ceisio gosod nod sylweddol i'r gwrthwynebwyr.

Doedd yr ymdrech ddim yn un syfrandanol, ond oherwydd mantais batiad cyntaf y tîm cartref, fe lwyddon nhw i osod targed go swmpus i Sir Derby o 261.

Doedd hi byth yn ymddangos eu bod nhw'n mynd i gyrraedd.

Cyn pen dim roedd yr ymwelwyr yn 18 am 3 wiced, ac er gwaethaf ymdrech a 72 gan Wes Durston, doedd dim cefnogaeth iddo.

Michael Hogan oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg gan gipio pedair wiced, ac fe gyfrannodd Lloyd, Allenby a Wagg ddwy bob un i sicrhau'r fuddugoliaeth

Morgannwg v. Sir Derby: Pencampwriaeth y Siroedd; Sgor terfynol:-

Morgannwg (batiad cyntaf) = 282

(ail fatiad) = 181

Sir Derby (batiad cyntaf) = 203

(ail fatiad) = 154

Morgannwg yn ennill o 106 o rediadau.