Yr Alban: Pam y ffraeo ynghylch iechyd?

Alban / Britain

Mae'r frwydr wleidyddol yn yr Alban wedi bod yn ffyrnig ers y dechre, ond fwy na dim yr effeithiau economaidd sydd wedi tanio'r dadleuon.

Hynny yw tan yn gymharol ddiweddar. Yn ystod yr ail ddadl deledu, lle'r aeth Alex Salmond ac Alistair Darling benben â'i gilydd ar dir newydd.

Ond pam y sylw i iechyd? Gwasnaeth sydd wedi'r cyfan eisioes dan rolaeth llwyr Llywodraeth Alex Salmond.

'Wedi gweithio'

Image caption Roedd Mr Darling o dan bwysau yn yr ail ddadl

Un ddamcaniaeth yw fod e am roi sylw i faes lle gall Llywodraeth yr Alban frolio record go lwyddiannus.

Dyma esboniad yr economegydd Iechyd Ceri Phillips: "Ni wedi gweld perfformiad yn gwella. Ni wedi gweld yn yr Alban y ffordd maen nhw'n gallu rhoi gofal tymor hir yn rhad ac am ddim.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos ei fod wedi gweithio. Mae iechyd yn agos i galon pawb a 'na pam falle mae Salmond wedi canolbwyntio ar y peth."

Damcaniaeth arall yw mai tacteg wleidyddol oedd hon gan Mr Salmond i amlygu tensiynau ymhlith ei wrthwynebwyr.

Dyma ddywedodd Lleu Williams o ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Mae trafod iechyd yn y refferendwm yma ddim yn unig yn anodd i wleidyddion Llafur yng Nghymru, mae'n anodd i wleidyddion Llafur yn eu cyfanrwydd, oherwydd fel chi'n gweld yng Nghymru yn barod maen nhw'n cwyno bod toriadau'n dod lawr o San Steffan ond hefyd maen nhw'n trio bod yn rhan o'r ymgyrch yma yn yr Alban.

"Chi ond yn gorfod edrych ar wyneb Alistair Darling yn y ddadl bythefnos yn ôl. Roedd e'n edrych yn anghyfforddus iawn gyda gorfod amddiffyn polisïau'r glymblaid yn San Steffan, polisïau mae e yn bersonol a'i blaid e yn eu gwrthwynebu."

Ond y tu hwnt i hynny, dadl am arian yn y bôn yw hon.

Pasio toriadau ymlaen?

Image caption Mae Carwyn Jones yn canfod ei hun ar yr un ochr â David Cameron

Yn ôl Alex Salmond pe bai'r llywodraeth yn San Steffan yn y dyfodol yn dewis gorfodi cleifion Lloegr i dalu am ofal ar y gwasanaeth iechyd, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfrwng ryw system yswiriant, yna byddai cyllid cyfatebol sy'n dod i'r Alban o'r Trysorlys yn gostwng.

A byddai hynny, meddai, yn gwneud hi'n anoddach i Lywodraeth yr Alban ddiogelu'r gwasanaeth a gwrthsefyll preifateiddio.

Codi bwganod yw hynny yn ôl yr ymgyrch Na - gyda hyd yn oed y gelynion gwleidyddol traddodiadol, Carwyn Jones a David Cameron er enghraifft yn gytûn mai'r unig berson allai ddewis preifateiddio gwasanaeth iechyd yr Alban fyddai Mr Salmond ei hun.

"Mae polisi iechyd yr Alban i gyd yn llwyr ddatganoledig, os byddai llywodraeth yr Alban yn penderfynu preifateiddio elfennau ohono fe nhw sydd â'r dewis i wneud 'ny," meddai Lleu Williams.

"Ond be mae Alex Salmond yn geisio ei bortreadu yw os fydd 'na doriadau yn Lloegr bydd y toriadau yna yn cael eu pasio ymlaen i Lywodraeth yr Alban a falle bydde nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd."

'Crac'

Image caption Ceri Green yn trafod gydag Aled ap Dafydd

Ond yr hyn sy'n ddiamheuol yw fod iechyd yn bwnc sy'n taro deuddeg ag etholwyr mewn unrhyw ymgyrch wleidyddol.

Felly beth yw'r farn ymhlith Cymry Glasgow am y drafodaeth? Dyma ddywedodd Ceri Green sy'n byw yn Helensborough ger Glasgow: "Smo fi'n credu y bydd cymaint â hynny o wahaniaeth i'r NHS, s'dim ots pa ffordd eiff e.

"Mae pobl Helensborough fel ma'i yn grac. Maen nhw wedi cau yr A&E agosaf, mae'n rhaid i ni nawr fynd dros y Clyde rhyw 30 milltir er mwyn cyrraedd yr A&E agosaf.

"Ond yn y diwedd ma' e i gyd i wneud â faint o arian sydd i gael."

Yn y pendraw nid dadleuon ynglŷn ag iechyd fydd yn dyngedfennol wythnos nesa os gredwch chi'n arolygon barn, ond y cwestiwn: a yw trigolion yr Alban yn teimlo y byddan nhw ar eu hennill â'u peidio yn ariannol pe bai'r wlad yn annibynnol?

Eto i gyd ma iechyd wedi creu sbarc ychwanegol yn y frwydr wleidyddol boethaf ers tro.

Straeon perthnasol