Pen-blwydd arbennig ffatri awyrennau yn Sir Fflint

Prince Charles Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd y Tywysog Charles yn agor y ganolfan ymwelwyr newydd

Fe fydd Tywysog Cymru yn ymweld â ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir Fflint, i nodi pen-blwydd y safle yn 75 oed.

Fe fydd yn mynd o amgylch y ffatri cyn agor y ganolfan ymwelwyr.

Mae dros 6,000 o bobl yn gweithio ar y safle sy'n cynhyrchu mwy na 1,000 o adenydd y flwyddyn.

Roedd ffatri'n cynhyrchu awyrennau bomio - Wellingtons a Lancasters - ar y safle yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl cynhyrchu 5,786 o awyrennau milwrol yn ystod y rhyfel cafodd mwy na 11,000 o dai parod eu cynhyrchu ar ôl y rhyfel.

Wedyn prynodd cwmni awyrennau de Havilland y safle yn 1948 a chynhyrchu awyrennau, gan gynnwys Vampires, Venoms, Mosquitos, Hornets a Sea Vixens.

Fe gyfrannodd at gynhyrchu'r awyren jet gyntaf i deithwyr, y Comet a dechreuodd adeiladu adenydd awyrennau teithio ar ddechrau'r 70au.

Image copyright Airbus
Image caption Cafodd dros 5,000 o awyrennau milwrol eu cynhyrchu yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.