Cannoedd yn mynychu rali o blaid 'Ie'

Tyrfa

Mae cannoedd o ymgyrchwyr o blaid pleidlais Ie wedi cymryd rhan mewn rali y tu allan i adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, bum diwrnod cyn y bydd Albanwyr yn pledleisio yn y refferendwm.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan fudiad 'Cymru yn Cefnogi IE - Ewch Amdani'r Alban' ac roedd gohebwyr y BBC yn amcangyfrif bod rhyw 400 o bobl wedi mynychu.

Roedd nifer o siaradwyr, gan gynnwys rhai oedd wedi teithio o'r Alban, yno i wneud yr achos dros Alban annibynnol.

Ond mae nifer o wleidyddion amlwg wedi datgan eu bod yn credu mai Na yn yr Alban fyddai orau i Gymru, gan gynnwys y Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb.

'Esiampl lachar'

Image caption Fe wnaeth Caryl Parry Jones ganu yn ystod y rali

Yn ystod y rali, dywedodd Ray Davies, cynghorydd Llafur yng Nghaerffili: "Ni fydd unrhyw beth yr un fath yng Nghymru na Phrydain, beth bynnag sy'n digwydd yr wythnos nesaf.,,

"Ewch amdani'r Alban, byddwch yn wlad unwaith eto, byddwch yn esiampl lachar i weddill y byd."

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar, mai "apathi" oedd y gelyn a bod digwyddiadau'n yr Alban yn profi bod ysgogi newid go iawn yn bosibl.

Cafodd nifer o lythyron o gefnogaeth eu darllen gan aelodau o'r ymgyrch, gan gynnwys un gan arweinydd yr ymgyrch Yes Scotland Blair Jenkins, oedd yn dweud: "Mae'r Cymry sydd wedi bod yn yr Alban wedi bod yn gefnogwyr huawdl ac ysbrydoledig ar gyfer Ie.

"Roeddem ni wrth ein boddau yn croeso cymaint ohonoch ar yr ymgyrch yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf."

Gwyrddion a Plaid Cymru

Image caption Roedd Leanne Wood am weld Cymru yn mynnu mwy o bwerau i'w hun

Fe wnaeth Arweinydd y Blaid Werdd hefyd siarad o blaid annibyniaeth. Dywedodd Pippa Bartoli: "Os oes un gwlad fach eisiau torri i ffwrdd o wlad arall mae'n rhaid fod rhywbeth mawr o'i le.

"Ond meddyliwch am y peth, beth sydd gan yr Alban i golli? Ecsbloeteiddio, model economaidd sydd wedi dyddio, canoli, anghydraddoldeb, camreoli, Trident - rargian fawr, maen nhw wir am fethu hynny yn dydyn?"

Yr olaf i siarad oedd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a ddywedodd: "Mae llawer yn gofyn: be am Gymru?

"Mae'n hanfodol bod Cymru ddim yn aros am gynnig o hunanlywodraeth ond yn mynnu grym dros ein dyfodol ni.

"Mae gan yr Alban gyfle o ddyfodol gwell oherwydd eu bod wedi mynnu cyfle eu hunain.

"Allwn ni ddim rhoi ein ffydd mewn San Steffan i weithredu er lles Cymru - mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd fel cenedl hyderus a gwneud hynny dros ein hunain."

'Ddim mewn sefyllfa gref'

Image caption Mae Mr Jones yn pryderu am sefyllfa wleidyddol Cymru

Ond mewn cyfweliad gyda Newyddion 9 mae'r cyn weinidog Swyddfa Cymru Jon Owen Jones yn dweud ei fod yn gobeithio gweld pleidlais Na.

"Rwy'n credu bydd y bleidlais yn erbyn," meddai Mr Jones, fu'n AS Llafur am 13 mlynedd.

"Wy'n sicr y bydd problemau ganddom ni yng Nghymru beth bynnag sy'n digwydd. Rwy'n credu fy hunan bydd y problemau'n fwy os bydd yr Alban yn penderfynu gadael.

"Y broblem fawr iawn sydd gan Gymru yw bod ein cyllid ni, fod y faint o drethi ni'n gallu codi yn ein gwlad ni ddim yn ddigon i dalu am y gwasanaethau ni'n cael nawr. Ac felly dy'n ni ddim mewn sefyllfa gref wrth ddelio efo San Steffan."

Mae hefyd yn credu bod Cymru mewn sefyllfa wael i ofyn am fwy o bwerau achos mae peryg i bobl yn Lloegr ddweud "talwch amdanyn nhw eich hunen".

'Aros yn y teulu'

Image caption Cafodd Mr Crabb ei benodi i'w swydd ym mis Gorffennaf

Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb ei eni yn Inverness ond ei fagu yn Sir Benfro ac mae wedi dweud ei fod eisiau gweld yr Alban yn "aros yn rhan o'r teulu".

Mae'n dadlau hefyd na fyddai pleidlais Na ddydd Iau yn golygu y byddai pethau'n aros yr un fath.

Dywedodd ar Radio Wales yn ddiweddar: "Dydi pleidleisio 'dim diolch' i annibyniaeth ddim yn golygu dweud 'na' wrth fwy o newid.

"Mae galw mawr iawn am fwy o bwerau a mwy o newid cyfansoddiadol."

Yr wythnos ddiwethaf fe aeth Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones i'r Alban er mwyn cefnogi'r ymgyrch Na, gan ddadlau y byddai annibyniaeth i'r Alban yn niweidio Cymru.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn credu y byddai'n well i Gymru a'r Alban petai'r Deyrnas Unedig yn cadw ei ffurf bresennol.

Fe wnaeth arolwg barn YouGove ym mis Ebrill awgrymu bod y mwyfrif o'r Cymry am i'r Alban aros yn rhan o'r undeb, gyda 62% yn erbyn eu gweld yn cael annibyniaeth a 16% o blaid.

Straeon perthnasol