Y Dreigiau 15-17 Gweilch

Eli Walker Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Eli Walker yn croesi cyn yr egwyl

Cael a chael oedd hi i'r Gweilch wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn y Dreigiau yn y Pro12.

Roedd gafael y Gweilch ar y gêm yn edrych yn eithaf cadarn ar ôl cais cyn yr egwyl i Eli Walker, ac yn fuan wedi'r ailddechrau i Rhys Webb.

Ond fe lwyddodd y Dreigiau i gadw fewn cyrraedd i'r ymwelwyr diolch i bedwar cic gosb gan Angus O'Brien.

Bron i O'Brien gipio'r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm gydag ymdrech gol adlam, ond roedd y Gweilch wedi gwneud digon i sicrhau ail fuddugoliaeth yn olynol.