Chelsea 4 - 2 Abertawe

Costa Image copyright BBC Sport
Image caption Mae Costa wedi sgorio saith gôl mewn pedair gêm i Chelsea

Dechreuodd y gêm gyda'r ddwy ochr yn edrych yr un mor beryglus, ond yr Elyrch welodd y cyfle gorau pan darodd Wayne Routledge foli dros y traws o groesiad gan Nathan Dyer.

Wedi 11 munud fel darodd Neil Taylor groesiad caled ac isel i mewn i'r cwrt cosbi ac wrth drio ei chlirio fe lwyddodd John Terry i roi'r bêl yn ei rwyd ei hun.

Dyw Terry ddim yn gwneud camgymeriadau fel yna yn aml ac roedd Abertawe wrth eu boddau yn cael ychydig o lwc.

Roedd tactegau Garry Monk i'w gweld yn gweithio'n dda wrth i'w dîm lwyddo i gadw Chelsea dan reolaeth am gyfnodau hir, ond fe ddechreuodd y gleision bwyso wrth i'r hanner ddod i ben.

Eiliadau'n unig cyn y chwiban hanner amser fe roddodd Abertawe gic rydd i ffwrdd - fe lwyddodd Diego Costa i'w phenio i gefn y rhwyd.

Costa ar dân

Image copyright BBC Sport
Image caption Roedd Chelsea rhy gryf i Abertawe yn y diwedd

Daeth ail gôl Chelsea ar ôl 10 munud fewn i'r ail hanner.

Roedd pasio gwych Fabregas a thraed cyflym Eden Hazard yn gyfuniad peryglus a pan ddaeth y bêl i draed Costa doedd dim ond un lle'r oedd hi am fynd, sef i gefn y rhwyd.

Daeth trydedd Costa ar ôl 67 munud. Roedd hi'n gôl ryfedd - ymdrech Ramires i ergydio yn wan a'r bel rhywsut yn disgyn yn daclus i Costa wnaeth ei tharo i mewn i gefn y rhwyd gydag angerdd.

Fe ychwanegodd Loic Remy un arall yn fuan wedyn i roi her Herciwlean i Abertawe geisio cipio pwynt.

Fe sgorion nhw cyn y diwedd - ergyd gelfydd o ymyl y cwrt cosbi gan Jonjo Shelvey - ond roedd sgorio dwy arall, neu un hyd yn oed, tu hwnt i'w gallu.

Bydd Monk nawr yn ceisio sicrhau bod ei fechgyn yn barod ar gyfer croesawu Southampton i'r Liberty yr wythnos nesaf.