Canlyniadau Cynghrair Cymru

Caerfyrddin 1 - 1 Y Drenewydd

Cyfartal oedd hi ym Mharc Richmond ddydd Sadwrn.

Fe roddodd Neil Mitchell yr ymwelwyr ar y blaen wedi iddo lwyddo i droi'n glyfar a phlannu croesiad Luke Boundford yng nghefn y rhwyd.

Ond daeth y Drenewydd yn ôl wrth i Ceri Morgan ergydio'n wych o du allan i'r cwrt cosbi ar derfyn yr hanner cyntaf.

Mae'r canlyniad yn gweld Caerfyrddin yn bumed yn y tabl, un pwynt ac un safle uwchben y Drenewydd.

Prestatyn 0 - 2 Airbus

Mae dechrau sâl Prestatyn i'r tymor yn parhau.

Airbus oedd y tîm gorau yma ac fe wnaeth cic o'r smotyn gan Tom Field wedi 12 munud a pheniad ar ddechrau'r ail hanner gan Glenn Rule o groesiad McGinn sicrhau'r canlyniad.

Mae Airbus yn drydydd yn y tabl, un pwynt tu ôl i'r Bala ond gyda gêm yn ychwanegol i chwarae, tra mae Prestatyn yn darganfod ei hunain yn wythfed.

Seintiau Newydd 2 - 0 Port Talbot

Roedd y Seintiau'n rhy gryf i Bort Talbot yma. Cic o'r smotyn gan Alex Darlington a gôl yn yr ail hanner gan Greg Draper yn sicrhau 13 pwynt allan o 15 posib i'r Pencampwyr.

Mae Port Talbot yn seithfed yn tabl.

Straeon perthnasol