Caerdydd 2 - 4 Norwich

John Brayford a Kyle Lafferty Image copyright PA
Image caption Roedd y profiad yn un poenus i Gaerdydd

Roedd cefnogwyr Caerdydd yn gandryll wrth weld eu tîm yn taflu mantais o ddwy gôl i ffwrdd mewn ail hanner lle chwaraeodd yr Adar Gleision yn ofnadwy.

Wedi dechrau mor dda i'r gêm, gyda Joe Ralls yn sgorio gydag ergyd isel arbennig oddi ar ei droed chwith, a Aron Gunnarsson yn profi ei ddoniau drwy ddyblu'r fantais, doedd neb wedi rhagweld beth oedd ar y ffordd.

Daeth gôl gyntaf Norwich ar ôl 54 munud, yr ail wedi 58, y drydedd ar 71 a'r olaf dri munud o'r diwedd.

Doedd selogion Stadiwm Dinas Caerdydd bron methu â chredu pa mor hawdd wnaeth y tîm ddisgyn yn ddarnau, a hynny gartref hefyd, ac mae Solskjær nawr yn rheolwr sydd angen canlyniad da, a hynny'n fuan.