Carwyn Jones: 'Angen eglurder ar ddyfodol datganoli'

Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw ar bob plaid i ddweud beth yw eu cynlluniau ar gyfer datganoli pellach, a hynny cyn y gwanwyn.

Dywedodd wrth BBC Sunday Politics Wales na ddylid trin Cymru yn wahanol i'r Alban, er nad yw'n debygol y bydd y ddwy wlad yn derbyn yr un pwerau.

Ychwanegodd ei fod eisiau gweld gwaith ar argymhellion ail ran Comisiwn Silk yn symud yn ei flaen.

Fe wnaeth rhan gyntaf yr adroddiad alw am ddatganoli rhai pwerau treth ac mae'r Bil Cymru sy'n gwneud ei ffordd drwy San Steffan ar hyn o bryd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo'r rhain.

Mae ail ran yr adroddiad yn argymhell datganoli pwerau dros heddlua, y system gyfiawnder a phwerau ychwanegol ym maes ynni.

Yn ôl Mr Jones mae "angen dirfawr" i'r pleidiau "eistedd i lawr gyda'n gilydd a dweud 'reit, dyma sut ddylai'r DU edrych yn yr 21ain' ar ôl pleidlais dydd Iau".

Ychwanegodd: "Dyw hynny heb ddigwydd hyd yn hyn.

"Ond does dim rheswm pam ddylai Cymru gael ei thrin ar wahân i'r Alban, yn enwedig yng nghyd-destun datganoli pellach. Mae'n rhaid i hynny fod yr un fath ledled y DU."

Dywedodd ei fod eisiau gweld y pleidiau yn esbonio'n union "beth yw eu cynlluniau mewn perthynas â mynd ag ail ran Silk yn ei flaen" yn eu maniffestos ar gyfer yr etholiad cyffredinol, fydd yn cael ei gynnal yn 2015.

Datgelodd hefyd nad oedd Gordon Brown wedi ymgynghori ag ef cyn iddo gyhoeddi amserlen ar gyfer rhoi pwerau newydd i'r Alban os mai Na fydd canlyniad y refferendwm.

Mi fydd y cyfweliad i'w weld yn llawn ar Sunday Politics Wales am 11:00 fore Sul Medi 14.

Barn y gwrthbleidiau

Yr wythnos hon fe wnaeth Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol alw am "undod" yng Nghymru o ran bod consensws yn cael ei ffurfio am y ffordd ymlaen wedi Medi 18.

Dywedodd: "Mae momentwm y refferendwm yma yn rhoi cyfle euraidd i ni sicrhau'r newidiadau mae Cymru ei hangen. Rwy'n ffyddiog am bleidlais Na, ond nid pleidlais am y status quo fydd hynny.

"Mi fydd yr Alban yn cael mwy o bwerau a heb lais clir mae Cymru'n wynebu risg o fod ar y cyrion.

"Mae angen i adroddiad Silk fod yn fan cychwyn ac rwy'n herio pob plaid i'w roi yn eu maniffestos."

Ond mae Leanne Wood o Blaid Cymru yn credu mai'r unig ffordd y gwnaiff y wlad ffynnu yw os yw hi'n dilyn trywydd tebyg i'r Alban.

Dywedodd: "Mae pawb yn awr yn cymryd sylw o'r Alban am fod pobl yr Alban wedi ethol llywodraeth sy'n rhoi eu buddiannau hwy gyntaf, a llywodraeth sydd wedi rhoi'r hawl dros eu dyfodol yn nwylo'r bobl.

"Hyd nes i Gymru wneud yr annisgwyl, does dim cymhelliad i Lundain gymryd unrhyw sylw.

"Byddai llywodraeth Plaid Cymru o 2016 ymlaen yn anfon neges glir na ellir cymryd pobl Cymru yn ganiataol a'n bod ninnau hefyd yn mynnu cael ein trin a'n parchu fel cenedl."

Mae Andrew RT Davies o'r Blaid Geidwadol wedi galw ar yr Alban i aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig, gan ddweud y bydd pethau'n newid beth bynnag.

Dywedodd: "Mae Cymru a'r Alban yn ffynnu fel gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig, felly be fyddech chi'n ennill drwy fod ar y tu allan?"

Ychwanegodd: "Mae llawer o bobl wedi trafod economeg y ddadl am y refferendwm, ac mae hynny'n bwysig.

"Mae mwy o bwerau wedi cael eu gaddo i'r Alban gan bob plaid ac mae setliad datganoli'r Alban a Chymru eisoes yn newid."