Rhyl 3 - 2 Bangor

Gôl gyntaf Image copyright S4c
Image caption Jack Laird yn sgorio gôl gyntaf y gêm

Mae Rhyl wedi curo Bangor o dair gôl i ddwy mewn gêm ddarbi ddramatig yn y Belle Vue.

Y Dinasyddion sgoriodd gyntaf wrth i Les Davies ddarganfod Jack Laird, a lwyddodd i ddarganfod lle ym mlwch cosbi'r Rhyl cyn ergydio i waelod y rhwyd o 12 llath.

Wrth i ddiwedd yr hanner cyntaf dynnu at ei derfyn fe ychwanegodd Davies ail gyda'i ben o gic gornel Sion Edwards.

Ac fel yna yr oedd hi pan chwythodd y dyfarnwr ei chwiban wedi'r 45 cyntaf, gyda Bangor yn mynd am eu horennau gan deimlo'n hunanfodlon.

Taflu popeth i ffwrdd

Image copyright S4c
Image caption Bowen yn amddifadu'r gôl-geidwad cyn sgorio'i ail

Dim ond un munud oedd wedi mynd o'r ail hanner pan lwyddodd Rhyl i dynnu un yn ôl diolch i ben Aaron Bowen o groesiad hir Ramsey.

Roedd y larwm wedi cael ei seinio ond doedd Bangor ddim fel eu bod yn gallu ymateb mewn ffordd fyddai'n atal y dirywiad.

Fe unionodd Bowen y sgôr chwe munud o'r diwedd wedi iddo lwyddo i gipio'r bêl gan gôl-geidwad Bangor Jack Cudworth mewn modd nid annadleuol.

Ond doedd y dyfarnwr yn gweld dim o'i le a phan gymrodd Bangor y gic o'r canol i ailddechrau'r gêm, roedd rhywun yn gallu synhwyro efallai y byddai momentwm Rhyl yn ddigon i suddo'r gleision.

Ac felly y bu. Bowen yn sicrhau hatric gydag ergyd anferth a daranodd i do'r rhwyd, yn dilyn pas gelfydd gan Stott.

Mae Bangor yn parhau fod wedi eu hangori i waelod y gynghrair efo dim ond un pwynt o'u pum gêm gyntaf. Mae triphwynt y Rhyl yn eu codi i'r nawfed safle.

Cafodd y gêm ei dangos yn fyw ar raglen chwaraeon newydd S4C Y Clwb, ac mae uchafbwyntiau o gemau eraill yr wythnos i'w gweld ar wefan Sgorio.

Straeon perthnasol