Phones 4U: Swyddi dan fygythiad

Phones 4U in Bangor Image copyright Google
Image caption Mae gan y cwmni dros 20 o siopau yng Nghymru

Mae pob un o siopau Phones 4U ar draws Prydain ynghau wedi i'r cwmni gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr. Mae dros 5,500 o swyddi o dan fygythiad, gan gynnwys 140 mewn dros 20 o siopau yng Nghymru.

Mae'r gweinyddwyr yn cyfarfod heddiw i benderfynu a all y cwmni barhau i fasnachu ar ôl colli cytundebau gyda Vodaphone ac EE.

"Pe bai cwmnïau rhwydwaith yn gwrthod ein cyflenwi, does yna ddim busnes i'w gael," meddai David Kassler, pennaeth Phones 4U.

Mae gan Phones 4U siopau yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerfyrddin, Y Drenewydd, Aberystwyth, Bangor, y Rhyl a Wrecsam.

Dywed y cwmni na fyddai'r penderfyniad yn effeithio ar gytundebau sydd mewn bodolaeth. Ond fe fyddai'r penderfyniad yn effeithio unrhyw archebion newydd sydd eu hanfon

Bydd llinell gymorth ar gael i'r cyhoedd o ddydd Llun 9am.