Cymydog yn ymosod gyda pholyn haearn

Andrew Chamberlain Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Andrew Chamberlain, 50 oed, yn dweud ei fod wedi defnyddio'r polyn er mwyn amddiffyn ei hun.

Mae dyn yn wynebu cyfnod o garchar am ymosod ar gymydog gyda pholyn sgaffald yn dilyn ffrae am barcio.

Cafodd braich Daniel Morgan, 24 oed, ei thorri mewn tri lle ar ôl ymosodiad Andrew Chamberlain.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y diffynnydd wedi taro Mr Morgan gyda'r polyn pedwar troedfedd ar ôl iddo adael ei gar y tu allan i dŷ Chamberlain yn y Coed Duon, Sir Caerffili.

Roedd Chamberlain, 50 oed, yn dweud ei fod wedi defnyddio'r polyn er mwyn amddiffyn ei hun.

Ond penderfynodd rheithgor ei fod yn euog o achosi niwed corfforol difrifol.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y barnwr y bydd yn aros i dderbyn adroddiadau cyn gosod dedfryd, ond fe rybuddiodd y diffynnydd i ddisgwyl cyfnod o garchar.