Diddymu cytundeb Leigh Halfpenny?

Leigh Halfpenny Image copyright PA
Image caption Symudodd Leigh Halfpenny o'r Gleision i Toulon dros yr haf

Mae llywydd clwb rygbi Toulon, Mourad Boudjellal, yn honni nad yw wedi diystyru diddymu cytundeb cefnwr Cymru Leigh Halfpenny oherwydd problemau gydag anafiadau.

Symudodd Halfpenny i'r clwb o'r Gleision dros yr haf ar gytundeb dwy flynedd a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.

Fe ddatgymalodd ei ysgwydd wrth i Gymru golli yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth, ac fe gafodd lawdriniaeth yn dilyn hynny.

Ond nid yw eto wedi chwarae i Toulon oherwydd anaf arall i gesail ei forddwyd.

Mae Boudjellal wedi dweud wrth y papur newydd Varmatin yn Ffrainc ei fod yn credu bod Halfpenny wedi anafu pan arwyddodd y cytundeb gyda Toulon.

Fe ddywed y papur ei fod wedi dweud: "Rhaid i ni ateb y broblem yma oherwydd mae angen ciciwr arnom ni.

"Y broblem yw ein bod yn credu iddo ddod i Toulon gyda'r anaf yn barod. Os mai dyna'r gwir dydyn ni ddim wedi diystyru diddymu'r cytundeb. Rydym yn ymchwilio i'r mater."

Pe bai Toulon yn gwneud hynny, fe fyddai'n codi'r posibilrwydd o Halfpenny yn dychwelyd i Gymru ar un o'r cytundebau deuol gydag Undeb Rygbi Cymru, ond fe fyddai nifer o glybiau eraill hefyd yn debyg o fod yn awyddus i sicrhau ei wasanaeth.