Barnet 0-1 Wrecsam

Mae Wrecsam yn symud i'r chweched safle ar ôl buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn y tîm ar frig yr adran.

Rob Evans gafodd y gôl wnaeth sicrhau pedwaredd buddugoliaeth Wrecsam oddi cartref y tymor hwn.

Barnet oedd yn meistroli'r cyfnod agoriadol - Luisma Villa yn methu cyfle da - a bu'n rhaid i Daniel Bachmann arbed ergyd Curtis Weston.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Bachmann arbed ergyd gan Lee Cook, hefyd.

Fe sgoriodd Evans ar ôl yr egwyl, gydag ergyd o 20 llath.