Gwahardd cyn athro wedi negeseuon testun

Entrance to St Brigid's school Image copyright Google
Image caption Mae Mr Green wedi rhoi'r gorau i ddysgu

Mae cyn athro yn Sir Ddinbych wedi cael ei wahardd rhag dysgu oherwydd iddo anfon negeseuon amhriodol at ddisgyblion mewn ysgol lle'r oedd yn arfer dysgu.

Clywodd tribiwnlys fod Matthew Green yn gweithio yn Ysgol Santes Ffraid, Dinbych, pan anfonodd negeseuon at ddisgyblion yn yr Albion Academy yn Salford.

Fe wnaeth Mr Green gyfaddef fod yr hyn a ddigwyddodd yn amhroffesiynol.

Cafodd gwrandawiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei gynnal yn Ewlo, Sir y Fflint.

Clywodd y tribiwnlys fod y negeseuon wedi eu hanfon at ddisgyblion 15 ac 16 oed, yn cynnwys cyfeiriadau at bartïon ac alcohol.

Roedd y negeseuon yn cynnwys rhegfeydd, ond doedd yna ddim cymhelliad rhywiol.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig dywedodd Mr Green ei fod dan bwysau ar y pryd a'i fod wedi ymddiheuro i'r disgyblion.

Dyw Mr Green ddim yn dysgu mwyach.

Fe wnaeth cadeirydd y tribiwnlys, Peter Williams, ddweud ei fod yn gosod gorchymyn yn gwahardd Mr Green.

Fe fydd gan Mr Geen yr hawl i ail-geisio am drwydded unwaith eto ymhen dwy flynedd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.