£500,000 wedi ei wario ar angladdau cyhoeddus yng Nghymru

Mynwent

Roedd person 18 yn un o dros 500 o bobl gafodd angladd cyhoeddus wedi ei dalu amdano gan un o awdurdodau lleol Cymru yn y bum mlynedd diwethaf.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru drwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, cafodd dros £500,000 ei wario ar angladdau cyhoeddus rhwng 2009 a 2014.

Mae angladd cyhoeddus yn cael ei drefnu gan gynghorau neu'r gwasanaeth iechyd pan nad oes gan berson marw unrhyw deulu, neu nad yw eu teulu yn gallu fforddio talu am un.

Ar gyfartaledd, mae angladd yn gallu costio dros £3,500, ac mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn dweud y gall fod yn anodd talu am angladd neu amlosgiad, gan mai'r "blaenoriaeth i lawer o bobl yw cost bywyd bob dydd".

'Realiti annymunol'

Mae angladd cyhoeddus yn golygu cael seremoni syml, cyn amlosgi'r corff neu eu claddu mewn bedd heb garreg arni - all gael ei ddefnyddio tair neu bedair o weithiau.

Fe ofynnodd BBC Cymru wrth bob awdurdod lleol faint o angladdau cyhoeddus gafodd eu trefnu rhwng 2009-2010 a 2013-2014.

Mae'r ffigyrau yn dangos bod cynghorau Cymru wedi gwario £518,132.98 ar gyfanswm o 504 o angladdau.

  • Y gost rhataf am angladd cyhoeddus oedd £109.99, gafodd ei dalu gan Gyngor Merthyr Tudful.
  • Talodd Cyngor Wrecsam £3,027.38 am yr angladd cyhoeddus drytaf.
  • Yr unigolyn ieuengaf i gael angladd cyhoeddus oedd person 18 oed yn Sir Gar, a'r hynaf oedd person 96 oed yn Abertawe.
  • Caerdydd oedd wedi trefnu'r nifer fwyaf o angladdau dros y cyfnod. Fe wnaeth cyngor mwyaf Cymru dalu am 100 o angladdau cyhoeddus ar gost o £103,292.03.
  • Ceredigion oedd wedi cynnal y lleiaf, gan drefnu ond un angladd ar gost o £1,900 i'r cyngor.

'Anawsterau ariannol'

Image copyright Creatas

Er nad yw'r ffigyrau yn dangos cynnydd yn y nifer o angladdau yn y bum mlynedd diwethaf, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn credu bod cynnydd yn digwydd dros gyfnod hirach.

Dywedodd llefarydd y gall hynny fod yn rhannol "oherwydd bod mwy o bobl yn byw yn byw ar ben eu hunain a dydy'r gefnogaeth oedd yn arfer cael ei roi gan deuluoedd mawr yn bodoli bellach".

"Does dim amheuaeth ein bod ni'n gweld esiamplau o dlodi sylweddol yn ein cymunedau. Dan yr amgylchiadau mae'n anodd i rai sydd hefo anawsterau ariannol i fforddio'r costau enfawr o drefnu angladd.

"I lawer, y flaenoriaeth yw costau bywyd bob dydd.

"Mae hwn yn realiti annymunol, ond un y mae awdurdodau lleol yn gorfod delio hefo wrth dalu am angladdau cyhoeddus."