Disgwyl i Solskjær adael

Ole Gunnar Solskjaer Image copyright Getty Images
Image caption Mae Solskjær yn cyfarfod â swyddogion y clwb er mwyn trafod ei ddyfodol

Mae disgwyl i glwb pêl-droed Caerdydd gyhoeddi ddydd Iau fod Ole Gunnar Solkjær wedi gadael ei swydd fel rheolwr.

Roedd Solkjær yn LLundain ddoe yn trafod gyda swyddogion y clwb.

Mae cyn reolwr Crystal Palace,y Cymro Tony Pulis a rheolwr Dundee, Paul Hartley wedi eu cysylltu efo'r swydd.

Ond dywedodd Dundee wrth y BBC eu bod am gadarnhau fod gan "y rheolwr Paul Hartley gynlluniau hir dymor gyda Clwb Dundee.

"Mae Paul wedi ymroi i'r clwb ac mae'n edrych ymlaen ar gyfer y gem ddarbi yr wythnos hon."

Mae Solskjær wedi bod dan bwysau ar ôl i Gaerdydd golli dwy gêm gartref yn olynol, a dydyn nhw heb ennill mewn pedwar gêm.

Fe gafodd Solskjær ei benodi yn rheolwr ym mis Ionawr ar ôl i'r perchennog Vincent Tan ddiswyddo Malky Mackay.

Nos Fawrth fe gollodd y clwb i Middlesbrough, a hynny ar ôl iddynt golli i Norwich yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Maen nhw yn safle 17 allan o 24 yn y Bencampwriaeth.