Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Leighton Andrews
Image caption Mae Leighton Andrews wedi dychwelyd i'r Cabinet fel Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

Falle bod llygaid pawb ar yr Alban yr wythnos hon, ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen mewn llefydd eraill hefyd, a nôl yma yng Nghymru, mae'n newid byd go fawr i un o golofnwyr Golwg.

Tra oedd Leighton Andrews yn paratoi ar gyfer cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Iau, cafodd neges fod y Prif Weinidog am ei weld, ac er ei fod yn dweud nad oedd yn ei ddisgwyl, erbyn hyn mae'n ôl yn y Cabinet fel Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

Colofn yr wythnos hon felly yw'r olaf ganddo i'r cylchgrawn.

Mae'n rhaid iddo fod yn ddisgybledig, meddai - dyw hi ddim yn dderbyniol iddo ddatgan barn am bopeth, nac i siarad yn gyhoeddus am bynciau sy'n gyfrifoldebau i weinidogion eraill.

Ac o ddarllen yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am y llwyth gwaith sy'n ei ddisgwyl o hyn allan, go brin y byddai ganddo amser i ddarllen, heb sôn am sgwennu colofn wythnosol o hyn ymlaen.

Image copyright Pensthorpe
Image caption Mae Bethan Wyn Jones wedi bod yn gwylio'r gwenoliaid yn heidio at ei gilydd ac yn paratoi at fudo.

Mae'n newid byd ar adar Cymru hefyd.

Bethan Wyn Jones yn ei cholofn natur yn yr Herald sydd wedi bod yn gwylio'r gwenoliaid yn heidio at ei gilydd ac yn paratoi at fudo.

Mae'n seremoni rydan ni'n ei gweld bob diwedd haf, meddai, ac eto ychydig iawn wyddom ni mewn gwirionedd am y broses mudo yma.

Fel rheol y newid yn oriau'r dydd sy'n rhoi'r ysgogiad i'r adar.

Wrth i'r dydd fyrhau, mae hyn yn rhoi gwybod iddyn nhw ei bod yn bryd hel eu pac, morol i fwyta digon er mwyn cael digon o fraster i'w cario ar y daith yn ôl i Affrica, lle byddan nhw'n cael yr un croeso ag ydyn ni'n ei roi pan fyddan nhw'n dychwelyd yma ym mis Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Image caption Harddwch mae Rhys Mwyn yn ei weld wrth yrru i mewn i Flaenau Ffestiniog.

Crwydro'r tomenni llechi mae Rhys Mwyn wedi bod yn ei wneud yr wythnos hon.

Yn yr Herald dywed ei fod wrth ei fodd gyda'r modd mae tomenni Dinorwig yn ymestyn fel petalau blodyn tua Nant Peris a'r siapiau hyfryd sydd i'w gweld ar lethrau Moel Tryfan wrth i'r llechi lonyddu ar yr ongl naturiol hynny sydd i'w gael gydag ochr unrhyw sgri.

Ond yn ogystal â'u harddwch, mae arwyddocâd llawer mwy pellgyrhaeddol i'r hen domenni.

Fel gydag unrhyw safle archeolegol arall, dyma ein cysylltiad â'r gorffennol â'r hen bobl.

Harddwch mae Rhys yn ei weld wrth yrru i mewn i Blaenau Ffestiniog neu i lawr Nant Peris.

Balchder mae'n ei deimlo wrth yrru drwy'r dirwedd yma - balchder o fod yn perthyn.

Image caption Yn ôl ystadegau Merthyr Tudful yw'r lle lleiaf hapus yng Nghymru.

A Rhys Mwyn yn fodlon ei fyd felly yng nghanol y tomenni llechi, lle tybed mewn gwirionedd yw'r lle hapusaf i fyw ynddo yng Nghymru?

Dafydd Elfryn, ar flog Golwg 360 sydd wedi bod yn pori drwy arolwg cenedlaethol blynyddol y llywodraeth sy'n holi pobl am nifer o agweddau gwahanol o'u bywydau, ac ar sail y canlyniadau, mae wedi ceisio dod o hyd i sir hapusaf Cymru.

Wrth edrych yn fras ar y canlyniadau, mae'n ymddangos i Dafydd fod Cymru'n wlad hapus ar y cyfan.

O edrych yn fanylach, mae'n debyg fod poblogaeth lai yn tueddu i greu pobl hapusach.

Ydy hyn yn golygu bod pobl sydd yn byw yn y wlad yn hapusach na'r rhai mewn trefi?

Canfyddiad arall yw bod y Cymry Cymraeg yn dipyn hapusach na rhai di-Gymraeg.

Rheswm gwych arall meddai i bobl ddysgu'r iaith!

Ond o ran hapusrwydd yn gyffredinol, o blith siroedd Cymru, Merthyr Tudful druan sydd lleiaf hapus, a'r lle brafiaf, yn ôl yr ystadegau o leiaf, yw Sir Benfro.

Falle bydd nifer o bobl am symud i fyw i'r Alban ar ôl yr wythnos hon - ond os da chi am fod yn hapus, byngalo bach wrth odre Carn Ingli yw'r lle i chi.

Image copyright Sid Howells
Image caption Sir Benfro yw'r lle hapusaf yng Nghymru a gyda thraethau fel hyn, pwy sy'n synnu?