Mwy o bwerau i Gymru?

Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud beth allai pleidlais 'Na' yn yr Alban olygu i ddatganoli pellach yng Nghymru.

Fe ddywedodd Carwyn Jones fod David Cameron wedi "cerdded yn ei gwsg i ddinistr bron iawn".

Roedd Mr Jones yn feirniadol iawn o Lywodraeth San Steffan yn ei araith, gan ddweud: "... bu bron iawn i'r sefydliad golli'r undeb. Nawr, mae'n rhaid i'r bobl ei ail-adeiladu."

Dywedodd ei fod wedi gofyn ers dros ddwy flynedd am gonfensiwn ac y dylai Prif Weinidog San Steffan fod wedi gwrando.

"Mae'r hen undeb wedi marw," meddai, "ac mae angen i holl arweinwyr cenhedloedd y DU drafod gyda'i gilydd.

Fe ddywedodd na allai Cymru chwarae'r ail feiolin a bod angen "datrys problemau tan-gyllido Cymru ar frys".

Newidiadau sylweddol

Mae arweinyddion y prif bleidiau Prydeinig wedi dweud y bydd canlyniad y refferendwm yn golygu newidiadau sylweddol i'r setliad presennol.

Fore Mercher fe ddywedodd David Cameron y byddai Cymru yn ganolog yn y trafodaethau yn sgil canlyniad y refferendwm.

Image caption Carwyn Jones: angen i holl arweinwyr cenhedloedd y DU drafod gyda'i gilydd.

Mae Mr Jones wedi dweud nad oedd Mr Caermon wedi gwneud unrhwy ymdrech i gysylltu ag e ar ôl dweud y bydd "Cymru yn ganolog i'r drafodaeth".

Ond bnawn Gwener dywedodd Mr Jones fod Mr Cameron wedi siarad ag e a'u bod wedi cael trafodaeth adeiladol.

Dywedodd ei fod wedi tanlinellu'r angen am gonfensiwn i drafod y cyfansoddiad, a bod Mr Cameron heb ddiystyru hyn.

Mae Mr Jones wedi cynnal trafodaethau gyda Peter Robinson, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, ac yn gobeithio siarad gydag Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban, yn ystod y dydd.

Treth a chyllido

Fe fydd unrhyw drafodaethau am bwerau i Gymru yn cynnwys trafodaethau am bwerau treth incwm a chyllido.

Yn ystod yr ymgyrchu yn yr Alban fe wnaeth y pleidiau Prydeinig ymrwymo i gadw fformiwla gyllido Barnett.

Dyma'r fformiwla sy'n penderfynu faint o arian mae Cymru yn ei dderbyn gan y Trysorlys, gyda Carwyn Jones yn dweud fod Cymru ar ei cholled o £300 miliwn y flwyddyn oherwydd y fformiwla.

Dywedodd Mr Jones: "Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r tangyllido ... mae pobl Cymru wedi cyfrannu at lewyrch y DU, ac mae'n berffaith resymol i ddisgwyl cyfran deg o'r gacen."

Ynghynt amddiffynnodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, fformiwla Barnett. Dywedodd fod hwn yn bwnc trafod arbennig i Gymru ond y byddai "llawr" o dan y fformiwla yn datrys y broblem.

Yn y cyfamser, dywedodd Graham Morgan, o Siambr Fasnach De Cymru: "Beth sy'n bwysig nawr yw nad yw Cymru yn cael ei anghofio yn y drafodaeth am ddyfodol datganoli, a sut y mae ariannu pob gwlad a phob rhanbarth yn y DU.

"Rydym o'r farn fod yn rhaid newid Fformiwla Barnett, a sefydlu fformiwla sy wedi ei selio ar anghenion, sy'n trin pob gwlad a rhanbarth o fewn y Deyrnas Unedig yn deg.

Yn y cyfamser, mae'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi bod yn ymateb i'r alwad am newidiadau yn y cyfansoddiad.

Mewn datganiad ar y cyd gydag Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, dywedodd Andrew R T Davies, arweinwydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Rwy'n parhau yn feddwl agored am ddyfodol datganoli yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ond mae'n rhaid sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r cyfansoddiad wedi eu ffocysu ar wella bywydau pobl Cymru."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wrth BBC Cymru: "Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod dyheadau pobl Cymru'n cael eu diwallu ac fe alla i weld yn glir bod dyhead ac uchelgais ar gynnydd ar gyfer Cymru, ac rydyn ni'n llywodraeth sydd am weld y dyhead yna'n cael ei ddiwallu.

"Mae gen i feddwl agored am bwerau treth yng Nghymru... Mae'r Alban yn gneud dadl dros edrych ar y mater eto."

Goblygiadau

Wrth gael ei holi ar Radio 4 y BBC dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae'r pleidiau wedi gwneud addewidion mawr i'r Alban ac mae yna ddisgwyliadau mawr, ac oblygiadau pe na bai'r addewidion yn cael eu parchu. "

Ychwanegodd fod yna oblygiadau i Gymru.

"Wrth gwrs rydym yn aros i weld manylion yr hyn sy'n cael ei gynnig, a byddwn yn ymateb i hynny. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau yn ystod y broses nad yw Cymru yn cael ei thrin fel gwlad eilradd.

"Mae'r Alban wedi cael addewid o ddatganoli dosbarth cyntaf - a dylai Cymru gael dim llai."

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru "na ddylai Cymru gael ei gadael ar ôl" ac y dylai pob plaid "siarad ag un llais" wrth sicrhau y bydd pŵer yn nes at y bobl.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler: "Rydym yn gwybod yn bydd newidiadu pellach i natur y DU, a bydd hyn yn cael effaith ar Gymru. Rwyf wedi fy argyhoeddi ei bod yn hanfodol fod gan Gymru gynrychiolaeth gref yn y broses honno."

Image caption David Cameron: Mwy o bwerau ar y gweill?
Image copyright Reuters
Image caption Ymgyrchwyr Na yn dathlu yn yr Alban

Confensiwn Cyfansoddiadol

Mae'r arweinydd Llafur Ed Miliband wedi galw am Gonfensiwn Cyfansoddiadol, er mwyn trafod mwy o ddatganoli i Loegr, a'r "angen am ad-drefnu San Steffan."

Dywedodd y bydd Llafur yn ymgynghori gyda'r etholwyr ym mhob gwlad a rhanbarth er mwyn trafod sut mae datganoli grym "nid yn unig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ond hefyd yn Lloegr."

Dywedodd y bydd aelodau seneddol, cynghorwyr a phobl gyffredin yn rhan o'r drafodaeeth.

Y bwriad yw sicrhau bod pob rhanbarth yn llunio adroddiad yn amlinellu eu gofynion gyda'r nod o gynnal Confensiwn Cyfansoddiadol i drafod y gwahanol argymhellion yn 2015.

Straeon perthnasol